wythnosau, er mai cyffredin iawn oedd doniau y pregethwyr a ddeuent i'w gwasanaethu. Ryw Sabbath nid oeddid yn disgwyl neb i bregethu; a chan ei bod yn ystorm anarferol, arosodd pawb gartref yn eu tai. Yn Abercorris aeth y teulu, gynifer ohonynt ag a fedrent, i gyd—ddarllen y Beibl; a chawsant y fath flas ar y gwaith fel y penderfynwyd cael cyfarfod cyffelyb yn yr Hen c y Sabbath canlynol. Ac o'r dechreuad bychan hwn y cyfododd yr Ysgol Sabbothol yn Nghorris a'r amgylchoedd.
PENOD III
DAFYDD HUMPHREY A'I GYDLAFURWYR
ADRODDWYD eisoes hanes troedigaeth Dafydd Humphrey, a'r "cyfamod" a wnaeth â Duw, "i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo, tra y byddai byw ar y ddaear." Yr oedd hyn yn 1781; ac nid oedd y pryd hwnw un 'achos' yn Nghorris, nac yn y plwyf ond oedd yn yr hen Eglwys. Ymhen naw mlynedd ar ol hyn, (yn 1790), fel y gwelsom, nid oedd yn ymuno â'u gilydd i gychwyn achos Methodistaidd ond pedwar heblaw efe ei hun. Credodd D.H. mai nid felly yr oedd i barhau; ac "ymdrechodd ymdrech deg" am oes faith i godi Teyrnas yr Arglwydd Iesu yn ei