o hyd—Mi wnes i gyfamod â'r Gwr unwaith yn y dechra, a gloewi'r cyfamod, gloewi'r cyfamod y bydda' i byth wedyn. Pa eisio all ddechra o hyd o hyd! Twt, twt, twt." I feddwl Dafydd Humphrey yr oedd y cyfamod a 'wnaethai unwaith yn gyfamod tragwyddol.
Anfynych y bu neb yn mwynhau gweinidogaeth yr efengyl yn fwy; ac yn yr oes hono nid oedd ein tadau wedi meddwl yn angenrheidiol gelu eu mwynhad oddiwrth eu gilydd. Clywsom y Parchedig Roger Edwards yn adrodd ei hanes yn pregethu yn Nghorris, yn nechreu 1831. Llencyn ieuanc oedd efe y pryd hwnw, wedi dechreu pregethu yn niwedd 1830; ond nid oedd ei ieuenctid yn creu dim rhagfarn yn ei erbyn yn meddyliau yr hen frodyr yno. Pregethai yn Aberllefenni nos Sadwrn; yr oedd yn Rehoboth foreu Sabbath, yn y Cwrt am ddau, ac yn yr Ystradgwyn y nos. Yr oedd D. H. mewn hwyl orfoleddus, yn chwerthin yn uchel, gan ddywedyd drachefn a thrachefn, "Ha, Ha, Ha! 0! diolch, 0! diolch." Curai ei ddwylaw yn barhaus, a chyfarchai y pregethwr mewn modd hynod o gartrefol ac anwyl. Byddai yn mwynhau y gwirionedd yn rhyfeddol ei hun; ond yn llawn mor ofalus yn gwylio ei effeithiau ar eraill. Gwrandawai yn fynych a'i wyneb at y gynulleidfa; ac os gwelai arwyddion fod y gwrandawyr yn teimlo nis gallai beidlo dangos ei lawenydd ar y pryd; a bydd.ai yn siwr o alw gyda hwy ar unwaith i geisio dwyn y mater mawr adref at eu meddyliau. Fel hyn y dywedir yn ei gofiant yn y 'Drysorfa '—
"Bob amser sylwai yn moddion gras pwy fyddai yn cael ei nodi dan y Gair; yna ai yn ddioed i ymofyn y cyfryw i'r ty gan ddweyd wrtho "Tyred, y mae efe yn dy alw di" Ai ei hun un fynych hyd flaenau cymoedd Coirris [ac Aberllefenni hefyd] i wahodd pawb i'r Ysgol Sabbothol; a'r rhai y byddai dim ar eu meddwl am eu cyflwr, dangosai iddynt y croesaw sydd iddynt yn yr egwys, ac yn nhrugaredd Duw."