Yma y claddwyd Humphrey Davies Ty'nyceunant a Mary Howells ei wraig. | |
Efe a fu farw Ionawr 24 1785 Yn 70 mlwydd oed |
Hi a fu farw Awst 24 1804 Yn 86 mlwydd oed |
Hefyd Eu Mab David Humphreys, ABERCORRIS. ac Elisabeth Owens ei wraig | |
Efe a fu farw Rhagfyr 19 1839 Yn 83 mlwydd oed. |
Hi a fu farw Gorphenaf 22 1834 Yn 74 mlwydd oed. |
Paham y gelwid ei wraig Elisabeth Owens nid ydym yn sicr. Merch ydoedd, fel y gwelwyd, i Jane Roberts, y Rugog. Digon tebyg mai Owens oedd cyfenw priod Jane Roberts. Gwelir mai mab Ty'nyceunant oedd Dafydd Humphrey. Dywedasom eisoes mai yn Eglwys y plwyf y priodwyd hwy Chwefror 27, 1781 Buont ill dau yn byw gyda'u gilydd am fwy na 53 mlynedd.
Mae hanes yr hen batriarch hwn yn llawn addysg ymhen chwe' blynedd a deugain wedi ei farwolaeth, Fel y sylw'a Mr. Daniel Evans, yn yr hanes o ba un y gwnaethom ddyfyniadau mor fynych yn y 'Drysorfa,' "golwg isel iawn fu ar achos yr Arglwydd am y deugain mlynedd cyntaf yn Nghorris." Cyn y diwygiad yn 1819 nid oedd ond o 15 i 20 yn aelodau, er y buasent ar un adeg cyn hyny yn rhifo ychwaneg; ond erbyn marwolaeth yr hen batriarch, yn 1839, yr oeddynt yn rhifo o 180 i 190 Ac yn y diwygiad uchod cafodd D. H. y fraint o weled braidd yr holl blant y buasai yn eu dwyn i'r Ysgol yn y blynyddoedd gynt wedi eu dwyn i mewn i'r eglwys. Gweithiodd yn ffyddlon dan anfanteision mawrion, ac y mae y gymydogaeth hyd heddyw yn dra dyledus am y wedd sydd arni i'w lafur ef.