dywyll; ond yn ebrwydd daeth ar draws pecyn bychan ar y ffordd. Erbyn ei godi, beth ydoedd ond torth, gyda swm o ymenyn mewn twll yn ei gwyneb, wedi ei cholli o un o'r gwageni a dramwyent y ffordd hono. Siriolodd hyn galon yr hen frawd; a mynych yr adroddai wedi hyny chwedl y darn torth, gan ychwanegu, "Yr oedd hi fel pe buasai wedi ei thori â chyllell angel."
Dyma y brodyr; dyma y tadau fuont yn gychwynwyr Methodistiaeth yn Nghorris. Nid oeddynt o lawer mor alluog a medrus ag amryw o'u dilynwyr; ond gwnaethant er hyny waith mwy anhawdd na neb a ddaeth ar eu holau. Myned i mewn i'w llafur hwy a wnaeth eraill; yn wir, eu llafur hwy a wnaeth y llwyddiant dilynol yn bosibl. Parchus byth fyddo eu coffadwriaeth!
Nid ydym yn proffesu ysgrifenu hanes yr enwadau crefyddol eraill yn y gymydogaeth; ond dichon nad ystyrir ni yn ymyryd â'r hyn na pherthyn i ni wrth wneuthur ychydig grybwyllion am danynt. A dodwn hwynt lawr yma, er fod amryw ohonynt yn ein cymeryd i adegau llawer diweddarach na dyddiau 'Dafydd Humphrey a'i gydlafurwyr.' Tua dechreu y ganrif bresenol y dechreuodd nifer o Wesleyaid o Ddolgellau ddyfod i gynal cyfarfodydd o dŷ i dŷ yn Nghorris. Thomas Owen, Ty'n y ceunant, tad y diweddar Hugh Owen, yr hwn a gafodd y fraint yn yr ardaloedd hyn o hebrwng allan hen oruchwyliaeth yr Ysgolion Dyddiol, a fu yn brif offeryn i adeiladu y capel cyntaf iddynt yn y gymydogaeth. Adeiladodd ef ar ei dir ei hun, ac i fesur mawr ar ei draul ei hun. Nid oedd yr adeilad ond bychan,—Capel Bach y gelwid ef; a safai yn nhroad yr hen ffordd yn ymyl Ty'n y ceunant. Yr oedd y Wesleyaid wedi ei adael cyn y côf cyntaf sydd genym ni am dano, a'r Methodistiaid yn cadw Ysgol Sabbothol ynddo. Y prif ŵr yn yr ysgol hono yn adeg ein mebyd ni oedd Richard Williams, yr Hen Ffactri, yr hwn hefyd oedd y dechreuwr