canu yn Rehoboth. James Evans, Ty'n llechwedd, oedd un o brif golofnau yr achos Wesleyaidd yn ei gychwyniad. Taid Oedd efe i'r diweddar Barchedig James Evans, gweinidog gobeithiol a galluog gyda'r un Cyfundeb, a gymerwyd ymaith yn mlodau ei ddyddiau. Byddai pethau tra digrifol yn digwydd weithiau yn yr Hen Gastell. Wrth holwyddori yno un Sabbath gofynwyd y cwestiwn, "A ydyw yn ddyledswydd arnom gyflawni gweithredoedd da?" "Ydyw," oedd yr ateb. Gofynwyd eilwaith, "A gawn ni fyned i'r nefoedd am ein gweithredoedd da?" Ar ol distawrwydd am beth amser, atebodd un hen ŵr "Na chawn." "Wel, am ba beth y cawn ni fyned yno, ynte" meddai un arall, "ai am ein gweithredoedd drwg ?" "Ië, yn wir," meddai y trydydd, "am ba beth hefyd? Y mae yn ddigon i beri i'r plant feddwl fod yn well gwneyd drwg na da." Ond digwyddodd llawer mwy o bethau o natur ddigrifol yn y Capel Bach. Clywsom nifer o honynt, ond nid ydym yn teimlo unrhyw duedd i'w dodi i lawr yma. Gellir crybwyll un, sydd dra adnabyddus yn y gymydogaeth, a'r hwn sydd wedi ymddangos trwy y wasg o'r blaen. Pan Oedd hen frawd, yr hwn oedd un o'r cymeriadau mwyaf digrifol, yn gweddio unwaith, clywyd swn cerbyd yn dyfod, a rhuthrodd y plant oll tua'r drws neu y ffenestr i'w weled yn myned heibio. Yr oedd y brofedigaeth yn rhy gref i'r gweddiwr, a chododd yntau oddiar ei liniau i edrych gyda hwynt. Wedi i'r cerbyd ddyfod i'r golwg, dywedodd yr hen frawd, "Hŷ! Hen Sês Plas Isa'! ni awn ni ati hi i weddio tipyn eto, 'mhlant i."
Ymwasgodd y Llanwyr mwyaf zelog at y Wesleyaid yn lled fuan ar ol eu dyfodiad cyntaf i'r gymydogaeth; yr hyn a fu yn fantais neillduol i'w cynydd. Ac ymunodd rhai a hwynt a fuasent yn Fethodistiaid cyn hyny. Dau o'r cyfryw oeddynt Edward Thomas, a'i wraig Sarah Rhys. Glynodd un ferch iddynt, Elen Roberts, wedi hyny o Benygroes, wrth y Methodistiaid hyd ddiwedd ei hoes. Bu y dadleuon rhwng y ddau enwad yn