tua 25 mlwydd oed, cymerodd yn wraig iddo Mary, merch Richard Edwards, Aberllefenni. Dydd ei briodas ydoedd Hydref 8fed, 1815 Yr oedd teulu Jane Jones erbyn hyn wedi ymadael o'r hen balasdy, ac R. E. a'i deulu wedi cymeryd eu lle. Yr oedd iddo naw o blant,—pedwar o feibion, a phump o ferched. Y meibion oeddynt, Edward, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Aberllefenni, ond a symudodd oddiyno i Ddyffryn—glyn—cul, gerllaw Aberdyfi, ac a fu farw yn yr Ogof Fawr, gerllaw Machynlleth; Evan, yr hwn y crybwyllwyd am dano mewn penod flaenorol yn byw yn Ffynonbadarn, ond a symudodd wedi hyny i ardal Llanwnog, yn Swydd Drefaldwyn;. William, a fu yn byw am oes faith yn Minffordd, yn yr hwn le hefyd y bu farw; a Richard, a fu farw gwpl o flynyddoedd yn ol yn Nolgellau. Y merched oeddynt Mary, priod H. Davies Elisabeth, priod Lewis Roberts, Tanycoed, gerllaw Abergynolwyn; Anne, priod John Williams, goruchwyliwr Chwarel Aberllefenni; Jane, priod Samuel Williams, Rugog; ac Ellen, priod Richard Edwards, Ceinws. O'r naw nid oes yn awr yn fyw ond Jane yn unig.
Ar adeg eu priodas nid oedd H. D. na'i wraig yn aelodau eglwysig, er eu bod ill dau yn grefyddol. Y noson gyntaf wedi dyfodiad y wraig ieuanc i Abercorris. Diolchai Dafydd Humphrey yn gynes yn y weddi deuluaidd am i'r Arglwydd roddi iddynt fel teulu drysor mor werthfawr. Ymhen tua thair blynedd ar ol eu priodas, sef yn 1818, yr ymunasant ill dau a'r eglwys. Dywedir mai 13 oedd nifer yr aelodau eglwysig y pryd hwnw; ond yn 1819, trwy y diwygiad grymus a gafwyd, ychwanegwyd at yr eglwys o 60 i 70 o aelodau. Yr oedd yn fyw hyd yn ddiweddar un chwaer a ddaeth i mewn yr adeg hono, sef Jane Roberts, Shop Newydd, yr hon a fu farw yn nhy ei merch yn Liverpool y flwyddyn ddiweddaf. Ymdaflodd H. D. ar unwaith yn egniol i waith crefydd; ac ymhen tua 18 mis wedi ei ymuniad â'r eglwys, dewiswyd ef yn flaenor ynddi. Ac yr ydym yn credu mai dyma y rhodd fwyaf a