Wedi i Rowland Evans ddyfod i Felin Aberllefenni (fel y cawn sylwi eto), gwas i H. D. ydoedd; ond derbynnwyd ef ar unwaith yn flaenor yn eglwys Corris. Ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei alluoedd yn fwy na H. D, nac yn fwy awyddus i roddi y lle blaenaf iddo yn y gwaith o ymgeleddu yr eglwys. Arferai R. E. ei gyfarch yn y Felin fel 'Meistr;' ac yr oedd iaith y Felin yn bur naturiol iddo yn yr eglwys; ond buan y gelwid ef i gyfrif gan H. D. "Tewch, Rowland, 'does yma neb yn feistr na gwas; pawb yn frodyr ydyw hi yma."
Trwy ei yni a'i ymroddiad ymledodd ei fasnach yn gyflym, a daeth yn fuan yn adnabyddus ac yn barchus ymhell y tu allan i derfynau ei ardal enedigol; ond ni effeithiodd ehangiad ei fasnach na pharchusrwydd ei sefyllfa i leihau dim ar ei ffyddlondeb i achos crefydd. Byddai bob amser yn gwneuthur pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo â'i holl egni. Yn yr ystyr oreu i'r gair, yr oedd wedi deall pa fodd i "wneyd y goreu o'r ddau fyd." Ar un olwg nid oedd neb yn fwy bydol; ac eto nid oedd neb yn fwy crefyddol. Medrai daflu ei holl natur i'w orchwyl, a chyda rhyw sydynrwydd rhyfedd ac anealladwy i lawer, medrai wneuthur yr un peth drachefn yn ebrwydd gyda gorchwyl arall.
Yn yr addoliad ni byddai neb yn fwy bywiog nag efe, yn enwedig yn ei flynyddoedd goreu; ond y foment y byddai allan o'r addoliad (os dydd gwaith fyddai) byddai wrthi â'i holl egni gyda rhyw orchwyl yn y maes, neu tua'r adeiladau, cyn i bobl eraill gael hamdden braidd i gyfarch gwell i'w gilydd ar derfyn y gwasanaeth. Un tro, pan yn dyfod trwy ddrws y capel, gwelai y gwartheg yn yr ŷd, a rhoddodd floedd gyffroes yn y fan, nes peri brawychdod i'r gynulleidfa oedd eto haner wneuthur ei ffordd allan o'r capel. Adroddwyd wrthym gan y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ei fod yn myned ryw dro i'r Cyfarfod Misol i Fryncrug. Goddiweddwyd ef ar y ffordd gan H. D. ar ei geffyl. Disgynodd yn y fan er mwyn i'w gyfaill gael marchogaeth am ychydig. Yr oeddynt