ar y pryd gerllaw Nantmynach. "Aroswch chwi yna," meddai H. D. wrth J. J, "mae arna' i eisio picio i'r fan yma am fynyd." Yn fuan daeth i'w gyfarfod ar hyd llwybr a arweiniai o'r ffarm hono i'r ffordd. "Mi brynais y gwlan yn Nantmynach yrwan," meddai; "mae arna' i eisio picio eto i'r ffarm yma;" ac yn fuan dychwelodd wedi prynu y gwenith yn y lle hwnw; Wedi cyraedd i Fryncrug, efe a alwyd i lywyddu y Cyfarfod Misol; ac ymdaflai i waith y swydd hono drachefn mor egniol a phe na buasai wedi gwneuthur dim arall erioed. Fel y dywedai Mr. Jones, "Nid oedd blewyn o'r gwlan wedi glynu wrtho."
Gan mai yn ardal ei enedigaeth y treuliodd H. D. ei holl oes, mae yn amlwg nad oes rhyw lawer o symudiadau na digwyddiadau allan o'r ffordd gyffredin i'w cofnodi yn ei hanes. Bu ei fywyd, fel yr awgrymwyd, yn llwyddianus; ond cafodd er hyny brofedigaethau mawrion yn ei ddydd. Un o honynt, a'r chwerwaf yn ddiau ydoedd marwolaeth ei anwyl briod, Medi 8, 1849 Mewn Cofiant byr a chynwysfawr yn y 'Drysorfa,' Mai, 1850, wedi ei ysgrifenu gan Rowland Evans, gosodir allan mewn modd hapus iawn brif linellau ei chymeriad, a hyny mewn rhan trwy ddyfyniadau o anerchiad y Parchedig Humphrey Evans, y pryd hwnw o'r Ystradgwyn, yn ei chladdedigaeth. Yn ei theulu yr oedd yn wraig serchog a charedig, yn ddiwyd a chynil, yn ddirodres a diwastraff. Wrth weini ar weinidogion yr efengyl, yr oedd yn nodedig am ei charedigrwydd a'i doethineb. Cyfunai yn dra dedwydd yn ei chymeriad rinweddau Martha a Mair. Buasai ei mam—yn—nghyfraith yn hynod yn ei gofal am weision yr Arglwydd am lawer o flynyddoedd, ond gosodwyd y ferch—yn—nghyfraith mewn amgylchiadau mwy cysurus, fel y bu y Tynewydd, yn ystod ei dydd hi, ac wedi hyny, yn un o'r lleoedd mwyaf dedwydd i bregethwyr alw ynddo. Yr oedd Mrs. Davies yn nodedig hefyd am ei charedigrwydd tuag at dlodion a chleifion. Yn wir, nid yn fynych y