y ddwy chwaer ieuanc uchod yn nodedig o grefyddol. Parai cysondeb eu hymarweddiad, gweddeidd—dra eu holl ymddygiadau, ynghyd â sirioldeb a gwastadrwydd eu tymherau, iddynt fod yn anwyl yn ngolwg yr holl gymydogaeth; ac yn y diwygiad yn 1859—60 cawsent ill dwy adnewyddiad amlwg iawn yn eu crefydd. Erioed ni chollwyd o'r ardaloedd hyn ddwy chwaer ieuainc fwy crefyddol a dymunol; a chwerw iawn i H. D. oedd eu hymadawiad, gan eu bod yn ei olwg yn wastad ymron fel canwyll ei lygad. Ceir coffio am danynt yn y Drysorfa, Hydref 1861.
Am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd fel blaenor, yr oedd H. D. yn weithiwr digyffelyb; ond am yr ugain mlynedd diweddaf, ei brif orchwyl ydoedd cael eraill i weithio. Gadawodd yr Ysgol Sabbothol i fesur mawr yn ystod y cyfnod hwn yn nwylaw brodyr ieuangach, gan fyned ei hun ar adeg yr ysgol gyda'r pregethwr i Aberllefenni, Esgairgeiliog, neu Bethania. Ni leihaodd ei yni na'i ffyddlondeb gyda'r achos mawr; parhaodd i lanw cylch nas gallai neb ei lanw ond efe, ac eto ei awydd mawr oedd dwyn eraill i weithio yn hytrach na gweithio ei hun. Yn yr eglwys parhaodd i arwain hyd y diwedd. Efe fyddai yn cyfodi ar nos Sabbath bob amser i ofyn y cwestiwn, A oes yma neb wedi aros o'r newydd gyda ni heno! Ychwanegai yn wastad ryw sylw byr, yr hwn ni byddai yn gyffredin ond cyfeiriad cynes at brif wirionedd y bregeth a draddodasid. Rhagarweiniad yn unig fyddai y sylw ganddo ef i adolygiad helaethach ar weinidogaeth y dydd gan Owen Jones, cyn galw ar y pregethwr i wneyd ychydig sylwadau wrth yr eglwys. Llawenydd calon H. D. oedd gweled o'i amgylch ddynion o alluoedd a chymwysderau amlwg i ddwyn ymlaen waith yr eglwys; ac yr oedd bob amser yn gwbl rydd oddiwrth bob teimlad eiddigeddus tuag atynt.
Wrth roddi yr amlinelliad uchod o brif ddigwyddiadau bywyd H. D. yr ydym o angenrheidrwydd wedi gwneuthur amryw