Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/57

Gwirwyd y dudalen hon

grybwyllion am ei gymeriad fel dyn a Christion, ac am y lle mawr a lenwid ganddo yn y gymydogaeth, ac yn enwedig ymysg y Methodistiaid. Ond dymunem, be gallem, gyflwyno i'n darllenwyr ddisgrifiad mwy cyfiawn a manwl o hono yn y gwahanol gylchoedd. Am ei gysylltiadau masnachol nid oes angen ychwanegu dim. Yr oedd yn y rhai hyn yn llawn llygaid, yn llawn yni, ond yn gwbl uniawn ac anrhydeddus. Er fod ei natur yn wresog a thanbaid, yr oedd er hyny yn dyner a charedig. Gŵr doeth ydoedd hefyd, heb fod mewn un modd yn dueddol at fyrbwylldra. Byddai yn dra gofalus am deimladau y rhai yr ymwnelai â hwynt. Wrth gwrs, yr oedd yn awyddus am i eraill fod yn onest ac anrhydeddus yn gystal a bod felly ei hun; ond yr oedd yn dra gwyliadwrus rhag iddo trwy unrhyw air brysiog roddi archoll i deimladau. Trwy yr holl nodweddau hyn bu yn hynod lwyddianus gyda gwahanol ganghenau ei fasnach; a dyrchafwyd ef i safle mewn canlyniad yn y gymydogaeth na chyrhaeddwyd gan neb o'i flaen. Ond gofalodd am fod crefydd yn manteisio o flaen pob peth ar ei lwyddiant; ac yr oedd yn amlwg i bawb ai hadwaenai ei fod yn wastad yn awyddus am wneuthur ei sefyllfa yn y byd yn wasanaethgar i ddyrchafiad achos Mab Duw.

Cymerwyd olwg arno yn gyntaf—

Fel Swyddog Eglwysig. Dewiswyd ef yn flaenor, fel y dywedwyd eisoes, ymhen y deunaw mis wedi iddo ymuno â'r eglwys, sef tua'r flwyddyn 1819. Nid oedd ar y pryd ond ei dad a Richard Anthony yn swyddogion yn yr eglwys; a chan ei fod ef, er nad oedd eto yn llawn 30 mlwydd oed, wedi derbyn manteision addysg llawer helaethach na hwy, yn ehangach ei wybodaeth, yn gryfach ei alluoedd, ac yn arbenig yn meddu ar yni digyffelyb, llithrodd yr arweiniad yn fuan ac yn gwbl naturiol iw ddwylaw. Anhawdd ydyw gwybod pa beth a ddaethai o'r eglwys yn 1819 oni buasai fod Duw wedi ei godi ef yn brydlawn i gymeryd yr arweinyddiaeth ynddi. Nid ydym