yn deall iddo erioed fod yn euog o chwenych y blaen, na dangos unrhyw ddiystyrwch o'r hen swyddogion; ac nid oes hanes iddynt hwythau ar y llaw arall wneuthur dim ond diolch i Dduw am estyn iddynt y fath gydweithiwr rhagorol, a gwneuthur eu goreu i roddi pob cefnogaeth iddo yn ei waith. Pa fodd bynag, aeth pob peth ymlaen yn heddychol a llwyddianus; ac ymhen ychydig flynyddau, trwy agoriad y chwarelau, ychwanegwyd llawer at boblogaeth yr ardaloedd, a da oedd fod H. D. wedi cael bellach amryw flynyddoedd o brofiad yn ei swydd, ac wedi enill safle o ddylanwad yn y gymydogaeth er bod yn arweinydd doeth yn y blynyddoedd pwysig a ddilynasant.
Y blaenoriaid, y pryd hwnw, oeddynt yn gwneuthur pob gwaith a berthyn i swydd gweinidog yr efengyl ond pregethu a gweinyddu yr Ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Ac nid oedd nifer y gweinidogion ar pregethwyr yn Ngorllewin Meirionydd yn 1820 ond bychan iawn. Anhawdd ydoedd cael pregethu cyson ar y Sabbothau; a thuag at ei sicrhau yr oedd, yn ol trefniadau y dyddiau hyny o roddi cyhoeddiadau yn unig am fis ymlaen, aberth mawr yn angenrheidiol ar du blaenoriaid eglwysig mewn lle neillduedig fel Corris i fyned i'r Cyfarfodydd Misol gyda chysondeb. Ymddengys y cynhelid weithiau y Cyfarfod Eglwysig ar nos Sadwrn, er mwyn cael presenoldeb ynddo y pregethwr a ddisgwylid at y Sabbath. Ond beth cwbl achlysurol ydoedd hyn; ac felly ar y blaenoriaid, ac ar H. D. yn arbenig, y disgynai gofalu am y cyfarfodydd hyn yn wythnosol. Wrth wneyd hyny dangosai fedrusrwydd neillduol. Nid oedd un amser yn siaradwr mawr ei hun, ond yr oedd ganddo ddawn arbenig i gael gafael ar brofiad y brodyr ar chwiorydd crefyddol. Yr oedd yn wastad mor fywiog ei ysbryd, mor siriol ei dymer, ac mor hoew yn ei holl ysgogiadau, fel y byddai ei bresenoldeb yn taflu bywyd i pob cyfarfod; ac yr oedd yn hynod barod gyda'i gwestiynau, a chyflym hefyd ac