yr un mor ddistaw. Yn raddol daeth y plant i wylio H. D, ac os gweled ef yn edrych trwy ei fysedd i ryw gyfeiriad deallid fod ystorm yn ymgasglu, a allai esgor ar ganlyniadau annymunol i droseddwyr. Weithiau, galwai ar y plant i gilio oddiwrth ryw un drwg yn eu mysg, gan ei adael wrtho ei hun yn ei ddrygioni. Bryd arall galwai ar un o honynt ato ar ei ffordd allan o'r gwasanaeth fel pe buasai ganddo rywbeth o bwys iw ddywedyd wrtho; ond y cyfan a ddywedai wrtho fyddai Drwg wyt ti, gydag ysgydwad awgrymiadol ar ei ddwrn. Bu yn bygwth troi y rhai drygionus allan, ac nid ydym yn sicr na chariwyd y bygythiad i weithrediad rai adegau. Un tro, pan yr oedd hogyn dan yr oruchwyliaeth hon, erfyniai am gael aros, gan ddywedyd, "Mi ddysga allan faint fynoch chi, os cai aros". Siaradai wrth y plant, a rhybuddiai hwynt pa le bynag y cyfarfyddai hwynt. Wel, meddai wrth hogyn direidus un—waith, pa un ai wedi bod yn gwneyd drwg ai ynte yn mynd iw wneyd yr wyt yrwan? Ac ychwanegai y gellid yn hawdd ei geryddu pa bryd bynag y cyfarfyddid âg ef am y naill reswm neu y llall. Ond o'r diwedd, llwyddocld H. D. i gael cynulleidfa Rehoboth yn un o'r rhai mwyaf astud, a gobeithiwn na bydd iddi byth golli y goron brydferth hon.
Bu yn ymdrechgar hefyd i roddi i lawr arferion llygredig ymhlith y bobl ieuainc. Buasai ei hunan yn enwog yn ei ddydd gyda'r bêl droed; ond wrth weled y gwastraff ar amser, ar drygau eraill oeddynt yn cyfodi o'r arferiad, gwnaeth y cwbl a allai iw rhoddi i lawr. Ymlithrai i blith y chwareuwyr, y rhai a chwareuent yn gyffredin wrth oleu y lloer, a rhedai gyda hwynt nes cael gafael ar y bêl; ac yna byddai y chwareu drosodd am y noson hono. Yr oedd ei arswyd ar ieuenctyd yr ardaloedd, ac er hyny yr oedd iddo barch gwirioneddol yn mynwes pawb o honynt. Rhoddai ei wyneb yn erbyn pob arfer lygredig; ac ni orphwysai nes gwneuthur pob peth yn ei allu ef at ei rhoddi i lawr. Blinid ei ysbryd gan segurwyr, y rhai a