aelodau y Cymdeithasau Dirwestol o'r gwahanol ardaloedd yn cydgyfarfod i orymdeithio, yn brasgamu gyda'r faner, rhag i un gymdeithas arall gael y blaen ar gymdeithas Corris. Byddai gyda hwynt ymhob man, yn llawn bywyd a gwres. Ac anhawdd ydyw yn awr ffurfio syniad priodol, am y cyffro oedd yn y wlad y pryd hwnw gyda'r symudiad dirwestol. Codai yr holl boblogaeth allan i'r cyfarfodydd yn y gwahanol ardaloedd. Yn Nghorris un diwrnod, yr oedd gwraig y dafarn wedi colli yr ysgubell, ac meddai wrth y forwyn, Tybed fod yr ysgubell wedi myned i'r Cyfarfod Dirwestol ? Un tro yr oedd Cymdeithas Corris yn myned i Ddolgellau; ac ar y Stryd Fawr, gan pan myned ymlaen ar ol eu baner, ar côr yn canu nes oedd y bryniau ar mynydd—oedd yn diaspedain gan y gerddoriaeth, daeth y gwrthwynebwyr allan i gicio y bêl droed yn eu canol. Ar y cyntaf ofnid terfysg; ond yr oedd Humphrey Hughes, y Pandy, yn eu plith, a thynodd ei gyllell o'i logell, gan ei dal yn agored i dderbyn y bêl, yr hon a ddisgynodd arni fel cadach llestri; ac yr oedd y chwareu ar unwaith drosodd. Yr oedd yn Nghorris lawer o frodyr zelog eraill, âc amryw yn llawer gwell siaradwyr na H. D.; ond nid oedd neb o honynt yn rhoddi y fath fywyd yn yr achos. Morris Jones ydoedd yr ymresymwr penaf yn mlynyddoedd cyntaf y symudiad: Hugh Roberts oedd un o'r ymadroddwyr mwyaf llithrig a gwresog; ond H. D. oedd yn rhoddi mynd yn yr holl wersyll, a pharhaodd yn gwbl ffyddlon hyd ddiwedd ei oes, sef am yn agos i ddeunaw mlynedd ar hugain.
Wedi i Demlyddiaeth Dda ddyfod i'r ardal, nid oedd neb yn fwy parod iw chroesawu nag efe. Ymunodd ar unwaith a'r Gyfrinfa, a bu yn ffyddlawn iw chynulliadau wythnosol, yn ol ei allu, hyd derfyn ei oes.
Yr oedd yn hynod amlwg hefyd gydag achos addysg Derbyniasai ei hun well addysg na neb o'i gyfoedion; rhoddodd