Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/66

Gwirwyd y dudalen hon

addysg dda iw blant a gwnaeth bob peth yn ei allu o blaid addysg yn y gymydogaeth. Yr ydym yn ddigon hen ein hunain i gofio adeiladu yr ysgoldy cyntaf yn y Garnedd—wen, gan R. D. Pryce, Yswain, Cyfronydd, Arglwydd Raglaw Meirionydd yr hwn a adnabyddid y pryd hwnw fel R. D. Jones,—Yswain, Trefri; Aberdyfi. Cyn hyny cynhelid ysgol ddyddiol yn Mhenygraig, Corris,—mewn rhan o'r ystafell a fu wedi hyny yn gapel yr Annibynwyr am flynyddoedd; a thrachefn yn nghapel Pantymaes, Aberllefenni o'r hwn le, yn 1850, y symudwyd yr ysgol i'r Garnedd—wen, Mae amryw enwau eraill yn haeddu coffadwriaeth parchus am eu ffyddlondeb i achos addysg y pryd hwnw, ac am flynyddoedd wedi hyny, yn arbenig John Stephen, Aberllefenni, a Robert Jones, Machine; ond neb yn fwy na H. D. Ac yn y mater hwn, fel gyda phob gwaith da arall yr ymaflodd ei law ynddo, ni oerodd ei zêl hyd ddiwedd ei oes. Yn lled agos i'r diwedd, anrhegodd y gymydogaeth â thir i adeiladu Ysgoldy Brytanaidd arno.

Yr oedd yn Ymneillduwr cydwybodol, ac yn Rhyddfrydwr glew a chyson. Efe a roddodd dir at Fynwent Ymneillduol capel Rehoboth yn 1846,—llanerch sydd erbyn hyn yn dra chysegredig i deimladau braidd bob teulu yn y gymydogaeth. Yr oedd yn Rhyddfrydwr pan nad oedd Rhyddfrydiaeth yn boblogaidd; ac yr oedd yn un o'r ychydig a bleidient Syr William Wynn, pan nad oedd ei bleidwyr trwy yr holl sir ond o 60 i 70 Cafodd fyw i weled yr achos Rhyddfrydol wedi enill y fuddugoliaeth. Ond yr hyn ydoedd werthfawr ynddo gyda gwleidyddiaeth, fel gyda phob symudiad daionus arall, ydoedd y mynd a berthynai iddo. Gellid cyfrif arno yn wastad pan y byddai ymdrech gyda rhywbeth yn angenrheidiol

Yr ydym wedi taflu allan awgrymiadau amryw weithiau am ei haelioni. Yr oedd yn ddiau mewn amgylchiadau i gyfranu yn weddol helaeth at wahanol achosion; ond yr oedd er hyny yn llawn haeddu y cymeriad o fod yn ŵr haelionus. Yr oedd ei dŷ