A wyt ti, y Cyfarfod Misol, yn clywed beth y mae Lewis Morris yn ei ddweyd am danat? Mynych yr anfonid ef ar ymweliadau â gwahanol eglwysi; a bu rhai o'r ymweliadau hyny yn dra nodedig. Crybwyllir am un felly yn Ffestiniog gyda Lewis Morris, gyda golwg ar Ddyled y Capelau; ac un arall â chyfran o'r sir gyda Mr. John Jones, Ynysgain, a fu yn dra bendithiol. Ac y mae yn amlwg iddo ddyfod i safle uchel yn lled fuan, oblegid cyn ei fod ond cymharol ieuanc anfonwyd ef, gyda'r Parchedig Richard Jones, o'r Wern, i Ddolgellau, i gymeryd llais yr eglwys gyda golwg ar ŵr ieuanc oedd yno yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Y gŵr ieuanc hwnw ydyw y Parchedig Roger Edwards, o'r Wyddgrug. Ar nos Sabbath yr oeddynt yno; a dywedai Mr. Edwards wrthym yn ddiweddar ei fod wedi cofio ar hyd ei oes yr ychydig eiriau a ddywedodd H. D. wrtho ar yr amgylchiad hwnw. Gofalwch, fy machgen, meddai, am wneyd y ffordd i fod yn gadwedig yn glir iawn i bechadur ymhob pregeth. Cofiwch bob amser y gall rhywun fod yn eich gwrando am y tro diweddaf cyn myned i'r farn. Byddwch yn siwr o ddweyd digon am fywyd ymhob pregeth. Anhawdd fuasai rhoddi gwell cyngor; ac anhawdd hefyd fuasai cael gwell esiampl o'r hyn a fyddai ei gynghorion ar hyd ei oes.
I ba raddau y mae Corris ar ardaloedd cylchynol yn ddyledus iw ddylanwad y mae yn anmhosibl, traethu. Amlwg yw oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, er mor anmherffaith, y dylai ei enw gael ei gadw yno byth mewn coffadwriaeth bendigedig. Wedi treulio oes faith yn ei ardal enedigol, daeth o'r diwedd ddydd ei ymddatodiad, sef y 26ain o Ragfyr, 1873, pan oedd uwchlaw 83 mlwydd oed. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd; yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parchedigion William Williams, Corris; Robert Owen M.A, Pennal; Griffith Evans. Bryncrug; John Foulkes Jones, B.A, Machynlleth; John Davies, Bont—ddu; Evan Jones, Dyffryn; David Evans, M.A, Dolgellau, a