Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD V

CYDLAFURWYR HUMPHREY DAVIES YN NGHORRIS

YN y benod hon gwneir ychydig grybwyllion am nifer o gydlafurwyr Humphrey Davies yn Nghorris. Buasai yn dda genym eu gwneuthur yn helaethach; ond y mae hyny yn anmhosibl, yn y lle cyntaf, oherwydd prinder gofod, ac yn y lle nesaf, oherwydd yr anhawsder, bellach, i gael gafael ar hysbysrwydd cywir gyda golwg arnynt. Yr ydym yn gadael dau o honynt o'r neilldu er mwyn gwneuthur crybwyllion llawnach am danynt mewn penodau dilynol, sef Morris Jones a Rowland Evans. Yr oedd yn Nghorris, yn cydlafurio a H. D. nifer o frodyr eraill yn gystal ag amryw chwiorydd, heb fod wedi cyraedd y safle oedd iddo ef, ond er hyny yn gymeriadau tra dyddorol, y rhai y byddai yn resyn caniatau iw henwau ddisgyn i dir anghof.

Yr oedd amryw o'r brodyr hyn yn flaenoriaid. Un o honynt ydoedd Richard Owen, Ceiswyn. Mab ydoedd efe i Owen Morgan, Ymwlch, gerllaw Harlech. Enw ei fam ydoedd Jane Richards, chwaer i dad y diweddar Barchedig Richard Humphreys, o'r Dyffryn; yr hon a fu ar un adeg yn cadw tŷ ei brawd. Bu Owen Morgan farw yn Ymwlch. Buasai ef ai briod yn byw yn Tyntwll, Dyffryn, cyn eu mynediad i Ymwlch, a dychwelodd ei weddw ar ol ei farwolaeth ef i Egryn. Bu iddynt saith o blant, pedwar o feibion a thair o ferched. Enwau y meibion oedd William, Morgan, Richard, ac Edward;