ac enwau y merched oedd Mary, Gwen, a Jane. Y Morgan uchod a ddaeth wedi hyny yn dra adnabyddus fel Morgan Owen, y Glyn, Talsarnau; ac y mae ei ddisgynyddion yn awr yn gyfran bwysig o'r Cyfundeb Methodistaidd mewn llawer o ardaloedd. Mary ydoedd mam gwraig y diweddar Barchedig Robert Ellis, o'r Ysgoldy; Gwen ydoedd priod y diweddar Gadben G. Griffiths, o'r Abermaw, a Jane ydoedd mam Mr. Davies, Maes-glas, ger Treffynon, a Mrs. Thomas Owen, Porthmadog.
Cafodd Richard fwy o fanteision addysg na'r cyffredin o'i gyfoedion yn yr oes hono; canys bu mewn lle yn Sir yr Amwythig am beth amser yn yr ysgol. Wedi ei ddychweliad oddiyno digwyddodd fod Mr. Charles o'r Bala yn pregethu yn Harlech, brydnhawn dydd gwaith. Yr oedd gydag ef y tro hwnw y diweddar Barchedig Rowland Hill, ac am fod Richard yn medru Saesneg, anfonwyd ef i ddanfon Mr. Charles a Mr. Hill, trwy y Rhyd, ac i'r Abermaw. Cymerodd y ddau ŵr da hamdden i ymdrochi yn y môr, tra y gofalai yntau am eu ceffylau. Cynygiodd Mr. Hill, y pryd hwnw chwilio am le iddo yn Llundain os teimlai awydd myned yno. Ar y pryd nid oedd ynddo unrhyw ogwydd at fyned oddi cartref; ond tybiodd lawer gwaith wedi hyny iddo wneuthur camgymeriad difrifol na buasai yn derbyn caredigrwydd Mr. Hill.
Cafodd ef ar plant oll eu dwyn i fyny yn grefyddol; ond ymddengys ei fod, pan yn llencyn lled ieuanc, yn llawn direidi, ac mewn perygl o gymeryd camgyfeiriad. Dywedwyd wrth ei fam gan y gŵr a ofalai am Gastell Harlech, ei fod ef a nifer o'i gyfoedion yn arfer myned yno ar brydnhawn Sabbothau i chwareu amrywiol gampau. Yr oedd y gwr yn awyddus am iw enw ef gael ei gadw yn ddirgel. Y Sabbath canlynol aeth mam Richard yno; a phan y gwelodd un o'r cwmni hi yn agosau, aeth braw i fynwes pob un o honynt; ac wrth geisio dianc rhagddi neidiodd Richard o'r fath uchder fel yr oedd yn syndod na buasai wedi derbyn niwed difrifol. Bu yr ymweliad