Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

cysylltiad a'r chwarel mewn swydd israddol wedi rhoddi heibio o hono ei hun yr oruchwyliaeth. Yr elfenau mwyaf amlwg yn ei gymeriad oeddynt ei onestrwydd ai ddiniweidrwydd. Am dano ef y dywedai John Richard: Dwn i ddim beth iw feddwl o hono; mae rhyw berffeithrwydd creadigol yn perthyn iddo nad ydyw iw gael mewn dynion yn gyffredin. Yn ei oruchwyliaeth yr oedd ei uniondeb a'i onestrwydd yn adnabyddus i bawb, er nad ydym yn tybio iddo ef ei hun erioed feddwl am udganu hyny o'i flaen; ac yr oedd ei ymarweddiad bob amser yn gwbl ddiargyhoedd. Nid oedd ei alluoedd yn fawrion; ond yr oedd o deimladau hynod fywiog. Ychydig o le a gymerai yn ngwaith cyhoeddus yr eglwys; ond llanwai ddwy swydd ynddi i berffeithrwydd. Efe fu ei thrysorydd am lawer o flynyddoedd; ac efe hefyd a ofalai am yr amser yn y gwahanol gyfarfodydd. Yn y cyfarfod eglwysig byddai yn hynod fanwl gyda hyn. Mynai ddechreu mewn amser priodol, a mynai ddiweddu hefyd yr un modd. Nid oedd o un gwahaniaeth pwy fyddai yn siarad pan ddeuai amser diweddu i fyny, byddai W. J. ar unwaith ar ei draed, yn rhoddi penill allan iw ganu. Un o'i hoff benillion ydoedd :—

Mae cwmni r saint yn hyn o fyd,
Yn bleser mawr i ni o hyd;
Ond yn y tragwyddoldeb pell,
Bydd eu cymdeithas lawer gwell.

Dyma yn ddiau ydoedd ei brofiad. Cafodd fyw i oedran teg; a threuliodd brydnawn—ddydd ei fywyd yn hynod gysurus. Fel yr hysbyswyd eisoes, y mae yn aros eto ddau o feibion iddo, a thair o ferched; ac y mae eu teuluoedd, eu plant, a'u hwyrion, erbyn hyn yn lliosog. Wyr i W. J. ydyw y Parchedig William S. Jones, B.A, gweinidog yr eglwys Fethodistaidd Saesneg yn Llanidloes. Nid oes amheuaeth yn meddwl neb ai hadwaenai nad oedd W. J. yn Gristion trwyadl; a phan y bu farw, teimlai pawb nad oedd yn gymwys i un man ond y nefoedd!