Un arall o flaenoriaid Corris a haedda goffâd parchus ydoedd William Richard, Tŷ'r capel. Ganwyd ef yn y Dunant, Llan y Mawddwy, yn Mai 1795; a bedyddiwyd ef yn Eglwys y plwyf ar y 24ain o'r un mis. Wedi tyfu i fyny daeth i wasanaethu i Lwydiarth, Aberllefenni; a thra yno ymbriododd â Mary Ellis, o Groesor, ger Llanfrothen, yr hon oedd ar y pryd yn aros gyda'i llysdad yn Ngheiswyn. Wedi priodi aethant ill dau i fyw i Tynymaes, Ystradgwyn; ac yn eglwys yr Ystradgwyn y dewiswyd ef yn flaenor eglwysig. O Tynymaes symudodd i Tynrhelyg, Corris; ond parhaodd am ryw yspaid o amser wedi hyny heb dori ei gysylltiad ag eglwys yr Ystradgwyn. Yn 1830 cafodd ei ddewis yn flaenor yn Nghorris, a bu yn hynod ffyddlawn yno o hyny hyd ei farwolaeth, Mehefin 21, 1861.
Y nodwedd fwyaf amlwg ac adnabyddus ynddo ef ydoedd ei lymder yn erbyn pechod. Teimlai eiddigedd dwfn dros anrhydedd crefydd a phurdeb y ddisgyblaeth eglwysig; ac i'r cyffredin yr oedd ei eiddigedd yn fwy amlwg nai fwyneidd-dra; ond yr oedd yn bell iawn o fod yn ddyn chwerw ei ysbryd neu surllyd ei dymer. Yr oedd yn hoff o blant, a phlant yn hoff o hono yntau; dyn serchog mewn gwirionedd ydoedd. Ond yr oedd yn gâs gan ei enaid bechod; ac nid oedd neb ai hadwaenai heb wybod hyny. Yr oedd yn ŵr o amgyffredion cryfion, o feddwl craffus, a gwreiddiol, ac yn fedrus at ddarparu ymborth iachus i'r praidd; ac ystyrid yn wastad ei sylwadau yn y cyfarfod eglwysig o'r gwerth mwyaf. Bu yn wyliwr effro ar furiau Sïon, a chododd ganllawiau gwerthfawr lawer adeg trwy ei gynghorion i gadw ieuenctyd y gymydogaeth rhag syrthio dros y dibyn i lawer o arferion pechadurus. Yr oedd o ddoniau helaethach na'r cyffredin; ac nid anfynych y gelwid arno i wasanaethu mewn claddedigaethau. Nid llawer oedd yn bresenol yn nghladdedigaeth Hannah Davies, Abercorris, ac ychydig o'r rhai oeddynt sydd yn awr yn fyw; ond nid anghofiwyd byth y gwasanaeth gan neb oedd yno, ac yn enwedig ei bwyslais