Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/75

Gwirwyd y dudalen hon

ar y geiriau, "Am hyny byddwch chwithau". "Fel yna," meddai, "y mae y gair yn dyfod atom heddyw oddiwrth ein hanwyl chwaer, 'byddwch chwithau barod' ; lwc fawr i mi oedd fy mod yn barod fy hun."

Yn ei flynyddoedd diweddaf, dioddefodd gystudd maith a nychlyd; ond gwellhaodd drachefn i'r fath raddau fel ag i fod yn alluog am ychydig amser i ail ymaflyd yn ei alwedigaeth Nid oedd y gwellhad, pa fodd bynag, ond dros amser byr; a chymerwyd ef ymaith yn 66 mlwydd oed. Yn ei farwolaeth, temlai yr holl ardal ei bod wedi colli un o'r dynion duwiolaf a gonestaf a fu ynddi erioed. Bu iddo ef ai briod dri o blant, y rhai sydd yn aros hyd heddyw, sef Mr. Richard Williams, yr hwn sydd yn un o flaenoriaid eglwys Nassau Street, Llundain; Mr. Howell Williams. yr hwn sydd yn un o flaenoriaid yr eglwys yn West Bangor, Pennsylvania, Unol Daleithiau yr America; a Mary Williams, yr hon sydd yn byw eto yn Nghorris.

Blaenor arall y rhaid ei grybwyll ydyw OWEN JONES, Penybont. Brodor o'r Waunfawr, Sir Gaernarfon, oedd ef; ond symudodd i Gorris yn lled ieuanc. Bu yn byw Mewn amryw fanau, megis Cefnbyriaeth, Aberangell, a Thy Capel, Aberllefenni; ond ymsefydlodd drachefn yn Nghorris, ac yno y treuliodd ei flynyddoedd diweddaf. Merch ydoedd ei wraig i'r hen flaenor adnabyddus David Jones, Llanwrin, tad y blaenor diweddar o'r un enw yn yr un lle. Dygasant ill dau i fyny deulu lliosog. Mae amryw ou blant wedi meirw, ac eraill yn aros hyd heddyw. Un o'r rhai hyn ydyw y Parchedig David Jones, yn ddiweddar o Lanfairtalhaiarn, ond yn awr o Lanllyfni. O alluoedd, meddyliol cryfion ydoedd, ac ymadroddwr dawnus a rhwydd. Ar nos Sabbath, byddai ei sylwadau yn fynych yn rhagorol. Cymerai afael mewn rhyw sylw yn y bregeth a draddodasid, a defnyddiai hwnw fel testyn i adeiladu arno anerchiad a fyddai ar adegau yn wir werthfawr. Un tro, yr oedd dau gyfaill yn gwrando pregeth led wag a diafael; a