ar ol H. H. ydoedd EVAN WILLIAMS, Llainygroes. Gŵr ffyddlawn oedd yntau er ei fod yn wastad yn hynod ddistaw. Mae un mab iddo, o'r un enw ag yntau, yn un o flaenoriaid yn eglwys yn Rehoboth yn bresenol. Mae hefyd un ferch iddo yn byw yn Nghorris, Elinor Whittington; ac y mae ei ddisgynyddion yn lliosog yn Nghorris ac yn yr America.
Gŵr a haeddai goffâd parchus ydyw yr hen athraw anwyl LEWIS THOMAS, Castell. Athraw y plant bach oedd efe. Dysgodd y wyddor i ugeiniau lawer o fechgyn yn Rehoboth, Yr ydym yn cofio yn dda yr adeg y gadawsom ei ddosbarth am ddosbarth uwch; ac yn cofio wedi hyny erfyn ar yr arolygwr am gael dychwelyd ato oherwydd iddo ddywedyd ei fod wedi digio wrthym am ei adael. Addfwyn, tyner, a thra charedig ydoedd ef; ac un a hoffid yn fawr gan yr holl gymydogaeth. Mae llawer o fechgyn a fagwyd yn Nghorris, ond sydd wedi eu gwasgaru erbyn hyn i wahanol ranau y byd, dan ddyled fawr iddo am eu cychwyniad cyntaf yn yr Ysgol Sabbothol. Merch iddo ef ydyw Mrs. Anne Lumley, sydd eto yn fyw, yn Nghorris,
Tra yr oedd L. T. yn dysgu y bechgyn, yr oedd hen frawd arall, yr un mor ffyddlon, yn dysgu y genethod, sef Gruffydd Ifan, Tynycae. Gwehydd ydoedd ef wrth ei alwedigaeth a thra chyffredin oeddynt ei amgylchiadau; ond yr oedd rhyw fath o wreiddioldeb tra dymunol yn perthyn iddo. Yn adeg y diwygiad yn 1859—60, wedi cyfarfod hynod o hwyliog, galwyd arno i fyned i weddi. Disgynodd ar ei liniau ar unwaith, a'i eiriau cyntaf oeddynt :—Diolch i ti, O Arglwydd mawr, am ei bod hi yn farchnad go sharp yma heno. Hen gymeriad tra gwreiddiol hefyd oedd Aels (Alice), ei wraig. Hynod ffwdanus fyddai yr hen chwaer yn wastad; ac anfynych y byddai yn gweled dechreu unrhyw gyfarfod; o leiaf, anfynych y byddai yn myned i unrhyw gyfarfod ond ar drot. Ond er ei holl ffwdan, nid oedd yn perthyn i'r eglwys neb yn fwy cyson yn y moddion, na neb yn fwy sicr o fwynhad ynddynt. Ar