Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/78

Gwirwyd y dudalen hon

adegau ceid ganddi yn y cyfarfod eglwysig brofiadau lled wreiddiol. Un nos Sadwrn, pan yr oedd yr hen bregethwr Mr. Williams, Drefnewydd (os ydym yn iawn—gofio), yn cadw y society, daeth at Aels am ei phrofiad. Ychydig a ddywedai ac felly dechreuodd yr hen bregethwr ei holi pryd y cymerodd yr ymddiddan canlynol le :—"A fydd arnoch chwi ofn uffern"?

"Na fydd ama i."
"Sut felly?"
"Ni bydda i yn meddwl fawr iawn ynghylch uffern."
"O, sut y byddwch chwi yn gwneyd ynte?"
"Treio byw i ryngu bodd y Gŵr y bydda i; a gadael iddo fo fy rhoi i yn y man y myno fo yn y diwedd".

Ac erioed ni adroddodd neb ei phrofiad yn fwy gonest na'r hen chwaer hon y tro hwn.

Symudodd y ddau hen bererin gwreiddiol i dreulio diwedd eu hoes mewn lle gerllaw Aberdyfi; ond y maent wedi cyraedd adref ers blynyddoedd bellach.

Mae yn hyfryd genym dalu y deyrnged fechan hon i goffadwriaeth y ddau hen frawd,—y ddau hen dâd hyn, fuont am gynifer o flynyddoedd yn athrawon mor ffyddlon ar ddosbarthiadau y plant bach. Digon tebyg na, feddyliodd neb erioed am gyflwyno diolchgarwch iddynt gymaint ag unwaith yn eu hoes mewn cyfarfod athrawon; ond y maent wedi derbyn yn ddïos erbyn hyn gyfarchiad caredig y Barnwr, "Da, was da a ffyddlon; buost ffyddlawn ar ychydig; mi ath osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dŷ yr Arglwydd". A thra y maent hwy yn mwynhau y llawenydd yn y nef, bydded eu henwau byth mewn coffadwriaeth bendigedig ar y ddaear.

Gŵr tra ffyddlawn oedd Abraham Edward, y Geuwern; ac un a ystyrid yn rhagori ar y rhan fwyaf mewn gwybodaeth a dawn. Ymysg y plant yn enwedig yr oedd yn dra phoblogaidd, am mai efe yn gyffredin a fyddai yn neidio i'r adwy, ac yn