Fel ysgolfeistr y bu Mr. Thomas Williams yn aros yn Nghorris am ychydig amser. Yr unig gôf sydd genym am dano ydyw ar ei ymweliadau â'r ardal i bregethu ar ol ymadael i'r Dyffryn; ond derbyniasom oddiwrth ein rhieni syniad tra pharchus am dano, a chofiwn yn dda am ei serchogrwydd tuag atom yn y Tynewydd, yn ystod ei ymweliadau. Mae yntau wedi huno ers llawer o flynyddoedd.
Yn llawer diweddarach, sef tua 1854 neu 1855 y daeth y Parchedig Ebenezer Jones i'r gymydogaeth, ac yntau hefyd i gadw ysgol ddyddiol. Bylchiog iawn fu yr ysgol am lawer o flynyddoedd oedd. Wedi dyddiau Lewis William yr hwn oedd yn Nghorris yn 1799, neu 1800, nid ydym yn gwybod am neb arall a fu yn ei chadw o flaen Mr. Daniel Evans, oddieithr un o'r enw Hugh Roberts, o Lanfachreth, yr hwn y clywsom oedd yn hen ffarmwr wedi ei droi o'i ffarm gan Syr Robert Vaughan oherwydd ei Ymneillduaeth, a fu yno am ryw ysbaid: ond pa adeg, ni dderbyniasom hysbysrwydd. Dilynwyd D. E. ganlyniadau Mr. Thomas Williams; a dilynwyd yntau gan Mr. John Roberts, wedi hyny o'r Ceinewydd, mab Robert a Jane Roberts, Garleg-lwyd. Y Jane Roberts hon fu yn byw yn y Shop Newydd wedi hyny ac y cyfeiriwyd ati mewn penod flaenorol. Wedi ei ymadawiad ef, yr hyn oedd golled fawr i'r gymydogaeth, bu dau wr ieuanc a fuasent yn yr ysgol gydag ef yn gwneuthur yr hyn a allent i lanw ei le, sef Thomas Humphrey, mab Dafydd a Jane Humphrey, Aberllefenni a William Parry, mab John ac Anne Parry, Aberllefenni. Gyda'r cyntaf o'r ddau hyn y cawsom ni y fraint o ddysgu y Wyddor yn yr iaith Saesneg. Yna, yn 1850, agorwyd yr ysgoldy yn y Garnedd Wen; ac o'r pryd hwnw hyd yn awr ni adawyd y gymydogaeth heb fanteision addysg. Yr ysgolfeistr cyntaf yno oedd gwr ieuanc o Sais, o'r enw Thomas Nicholas. Eglwyswr oedd ef, a chododd lawer o helynt trwy geisio gwthio ar y plant Gatecism Eglwys Loegr. Byddai gweinidog y plwyf, y Parchedig Robert