hynaf, yr hwn sydd yn parhau hyd heddyw yn aelod gyda'r Wesleyaid. Derbyniwyd ef ar unwaith yn bregethwr; ac o ddechreu 1856 bu yn pregethu yn gyson; a llafuriodd felly gyda chymeradwyaeth gyffredinol hyd ei farwolaeth, Mai 2, 1882, yn 71 mlwydd oed.
Er derbyn athrawiaeth y Wesleyaid, nid oedd yn gwbl dawel iw trefniadau; ac nid gormod ydyw dweyd fod ei fywyd gyda'r Methodistiaid yn llawer mwy cysurus.
Dyn bywiog ei ysbryd a brwd ei dymer oedd efe; yn meddu llais da a dawn i lefaru yn rhwydd. Cyfyng o angenrheidiol rwydd oedd cylch ei ddarllenyddiaeth; ond yr oedd wedi gwneuthur pob peth y gallesid ei ddisgwyl oddiwrtho yn nghanol lliosogrwydd ei anfanteision. Nid oedd ei bregethau yn fawrion na thrymion, ond yr oeddynt yn hynod gymeradwy gan y cynulleidfaoedd. Bu ei weinidogaeth yn ddiamheuol yn foddion dychweliad llawer o eneidiau at Grist. Yn wir, yn y peth hwn cafodd dystiolaethau i effeithiolrwydd ei weinidogaeth na estynir i lawer o ddynion a ystyrir yn fwy galluog, ac wedi cael llawer mwy o fanteision nag efe.
Cawsom unwaith brofiad oedd i fesur yn chwerw i ni o'i boblogrwydd pan yn anffodus yr aethom iw gyhoeddiad yn ei le. Cawsom y fraint o geisio pregethu i gynulleidfa—oedd lliosog a thra siomedig. A parhaodd ei gymeradwyaeth ai boblogrwydd hyd ddiwedd ei oes.
Yn ei gymydogaeth ei hun bu yn dra defnyddiol. Edrychid arno yn wastad yn arweinydd gyda'r Achos Dirwestol; ac ni oerodd ei zêl gydag ef hyd y diwedd. Dilynodd ef yn ffyddlon ymhob ffurf arno. Rhoddodd ei gefnogaeth wresog i Demlyddiaeth Dda, ac yn ei gystudd diweddaf gwisgai yn zelog y Ruban Glâs.
Yr oedd ynddo haws o nodweddau tra dymunol. Ac un o honynt ydoedd ei ffyddlondeb iw ymrwymiadau yn y mater hwn gallai yn hyf ofyn "A arferais i ysgafnder?"