Trwy anhawsderau a fuasent yn cyfreithloni ei arosiad gartref, aeth iw gyhoeddiad lawer gwaith; ac nid oes amheuaeth na niweidiodd ei iechyd ac na fyrhaodd ei oes trwy y cydwybodolrwydd hwn.
Peth arall canmoladwy ynddo ydoedd ei ffyddlondeb i Fugeiliaeth Eglwysig. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy yn eglwys Corris ers yn agos i ddeuddeng mlynedd cyn i'r Parchedig Evan Jones gael ei alw yno; ond rhoddodd iddo ef, ac i'r Parchedig William Williams wedi hyny, y derbyniad mwyaf siriol, a chyd—weithredodd â hwy yn y modd mwyaf calonog.
Cafodd gystudd nychlyd am fisoedd. Trwy waeledd mawr yr aeth i Lanfair a Harlech yr ail Sabbath o Chwefror, 1882; a dyna y tro diweddaf iddo bregethu. Teimlai yn dra chysurus yn ei gystudd er fod arno hiraeth calon am bregethu; ac yr oedd meddwl am yr eneidiau a roddasid iddo yn seliau ei weinidogaeth yn gysur gwirioneddol iddo. Hunodd o'r diwedd yn dawel yn yr Iesu. Rhoddwyd iddo gladdedigaeth tywysogaidd gan ei gyfeillion yn eglwys Rehoboth. Nawdd y Nefoedd fyddo dros ei weddw ai deulu.
Mae dau frawd eraill a fuont yn swyddogion yn Nghorris mewn blynyddoedd diweddar nas gallwn derfynu y benod hon heb sylw arnynt, sef Richard Lumley a Thomas Jones.
Yn Mhenybwlch, gerllaw y ffordd o Fachynlleth i Bennal, y ganwyd Richard Lumley. Yr oedd y tŷ wedi ei ollwng i lawr cyn i ni gofio ond dangoswyd i ni y llanerch y tro cyntaf erioed yr aethom y ffordd hono fel y lle y ganwyd Robert a Richard Lumley. Crybwyllwyd eisoes am frawd arall iddynt, Hugh Lumley, yr hwn oedd frawd-yn-nghyfraith i Rowland Evans. Ac yr ydym yn cofio yn dda John eu brawd, tad y Parchedig Roderic Lumley, gweinidog parchus gyda'r Annibynwyr, yn Swydd Gaernarfon. Tua 1838 yr ymunodd Richard Lumley a'r eglwys, a hyny yn Nghorris, gan ei fod ar y pryd yn was yn Cwincadian. Ar ol hyn yr aeth i Abercwmeiddew, yn hwsmon i William Jones, ac y daeth mewn amser yn fab-yn-nghyfraith