Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/87

Gwirwyd y dudalen hon

iddo. Gydag ef ai briod, Jane, yn Tanyrallt, y treuliodd William Jones flynyddau diweddaf ei fywyd. Dewiswyd ef yn flaenor yr un amser a Thomas Jones ac Humphrey Davies, ieu, Abercorris. Symudodd amryw weithiau yn mlynyddoedd diweddaf ei oes; ond galwyd ef i fod yn flaenor ymhob eglwys y bu mewn cysylltiad â hi.

Nid hawdd ydyw i ni ysgrifenu am y gŵr anwyl hwn. Yr ydym yn ei gofio o flaen bawb braidd oddigerth ein tad a'n mam ac yr oedd ein parch iddo a'n serch ato on mebyd yn fawr iawn. Yr oedd ein tad ac yntau yn gyfeillion calon; ar un modd ein mam âi briod. Nid ydym yn cofio i ni weled dyn mwy rhydd oddiwrth bob diffyg un amser Cyffredin oeddynt Ei alluoedd; ac nid oedd ei wybodaeth yn helaeth; ond yr oedd yn nodedig am ei synwyr cryf, a gwastadrwydd dilychwin ei gymeriad. Rhoddai y pethau hyn iddo ddylanwad mawr ar y rhai ai hadwaenent oreu. Dyn siriol ydoedd, heb y chwerwder lleiaf yn ei ysbryd; ond byddai ei bresenoldeb yn ddigon i gadw cwmni o rai ieuainc o fewn terfynau priodol.

Bu iddo ef ai wraig gyntaf dri o blant,—dau fab ac un ferch. Bu farw y ferch yn ieuanc iawn; a bu farw y ddau fab,—William a John, wedi tyfu i fyny yn llanciau dymunol a chrefyddol. Priododd yr ail waith âg Anne, merch yr hen athraw Lewis Thomas, Castell. Bu iddynt un ferch; ac y mae ei mam a hithau yn byw yn awr yn Nghorris.

Cafodd Richard Lumley gystudd maith a nychlyd, yr hwn a ddioddefodd gyda thawelwch mawr. Yr oedd ei grefydd uwchlaw amheuaeth; a mawr oedd y golled am dano wedi ei ymadawiad.

Mab i Meredith Jones, Penybont, ydoedd Thomas Jones. Mae Richard Jones, Dolffanog fach, Ystradgwyn, yn haner brawd iddo. Ac y mae John Jones, Galltyrhiw; yn frawd a Susannah Owen, y Waen, yn chwaer, iddo. Bu yn byw ar ol priodi am beth amser yn Mhenybont, ac wedi hyny am 18