Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/92

Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VI

CYNYDD METHODISTIAETH YN NGHORRIS A'R AMGYLCHOEDD

CYN myned ymlaen i wneuthur sylwadau ar Morris Jones a Rowland Evans, y rhai y mae eu henwau yn fwy arbenig yn gysylltiedig âg Aberllefenni, byddai yn fanteisiol taflu golwg ar y cynydd a gymerodd le ar yr achos yn Nghorris, a'i ymledaeniad graddol i'r gwahanol ardaloedd eraill oddiamgylch, Ac er mwyn peidio dychwelyd at y mater mewn penod ddilynol dodwn i lawr yma y cwbl y bwriadwn ei ddywedyd ar y mater hwn.

Yr ydym eisoes wedi dyddio cychwyniad yr achos yn yr Hen Gastell o'r flwyddyn 1790, a chrybwyll mai yn 1816 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd ef yn agos i haner milldir yn is i lawr na'r Hen Gastell, sef yn y man y saif y capel presenol. Yn 1836 adeiladwyd yr ail gapel yn yr un lle. Yr oedd yn fwy o gryn lawer na'r cyntaf; a dywedai un hen ŵr nad oedd yn edrych o gwbl yn ffafriol ar gynydd Methodistiaeth, y gallent yn hawdd droi ei haner yn gorlan i ddefaid Wmffra Dafydd. Yn 1869, tynwyd hwn drachefn i lawr a chyfodwyd y capel presenol, yr hwn sydd yn anrhydedd i Fethodistiaeth, ac yn addurn hefyd i'r gymydogaeth. Cofus genym glywed y diweddar Barchedig Edward Morgan, Dyffryn, yn galw sylw y swyddogion mewn Cyfarfod Misol yn y lle at yr angen am gapel newydd. Yr ydwyf, meddai, yn cofio yn dda y tro cyntaf y daethum i'r capel hwn, bedair blynedd