ar hugain yn ol. Yr oeddwn yn ei weled yn fawr iawn. Mi welais amryw o rai mwy wedi hyny; ond nid wyf yn gwybod am lawer o gapeli heblaw hwn yn hollol yr un fath yn awr ag oeddynt bedair blynedd ar hugain yn ol. Cyn hir wedi hyny, aed ati o ddifrif, a chwblhawyd y gwaith; ac y mae yr holl ddyled yr aed iddi erbyn hyn wedi ei thalu. Ac nid gormod ydyw dywedyd na bu yr achos yn fwy siriol yn Rehoboth erioed nag ydyw yn awr.
Crybwyllwyd mewn penod flaenorol am gychwyniad yr achos yn yr Ystradgwyn; ac nid oes genym lawer i'w ychwanegu yma at yr hyn a ddywedwyd yno. Oherwydd teneurwydd y boblogaeth, nis gallesid disgwyl i'r eglwys yn y lle hwn ddyfod yn gref; ond y mae wedi bod bob amser yn eglwys fechan gysurus a gweithgar. Carasem wneuthur crybwylliad helaethach nag a ganiata ein gofod i ni am un brawd a fu yn swyddog ynddi am dymor maith, ond a fu farw amryw flynyddoedd yn ol, sef Dafydd Jones, y gwehydd. Mab ydoedd i Edward Jones, Cwmtylian, Corris. Yn mhentref Esgairgeiliog y preswyliai pan y cofiwn ef gyntaf; ond yn yr Ystradgwyn y dewiswyd ef yn swyddog eglwysig. Yr oedd yn D. J. lawer o neillduolion; ac yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf pur a dymunol. Llais gwan, aneglur, oedd ganddo, yn tynu sylw ar unwaith; ond yr oedd yn meddu gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol eang. Byddai o werth mawr yn y cyfarfod eglwysig ac yn yr Ysgol Sabbothol; a cholled wirioneddol a gafwyd yn ei farwolaeth. Yr oedd yn un o'r dynion duwiolaf yn ddiau a adnabuwyd erioed yn y gymydogaeth.
Bu y diweddar Barchedig Humphrey Evans yn aros am ryw dymor yn yr ardal, ac yn aelod o'r eglwys yn yr Ystradgwyn. Gwr o graffder neillduol ac o allu diamheuol ydoedd ef; a bu o wasanaeth mawr i'r ardaloedd cylchynol yn ystod yr adeg y bu yn byw yn Dolffanog. Mab iddo ef yw y Parchedig Owen Evans, Bolton. Bu farw yn Nolgellau, Chwefror 1864.