Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/95

Gwirwyd y dudalen hon

lliosogwyd yn fawr mewn byr amser nifer y trigolion. Oddiyma y gallwn ddyddio cychwyniad masnach y gymydogaeth; a dyma yr adeg yr ychwanegwyd yn fawr at nerth yr achosion crefyddol yn y lle. Rhaid ychwanegu i gefnllif o lygredigaeth hefyd ddyfod i mewn ar yr un adeg. Nis gellid gwneyd bellach heb dafarn yn nes na Minffordd; ac nid yn hir iawn y buwyd heb gael ychwaneg nag un yn Nghorris. Ond yn adeg y diwygiad dirwestol sychwyd y dafarn oedd yn Tanyrallt. Wedi ei rhoddi heibio yr oedd yno ryw gymaint o'r ddiod yn aros, a threfnwyd i gael claddedigaeth cyhoeddus i'r gweddillion. Yr oedd yr adeg wedi cael ei gwneyd yn hysbys yn y gymydogaeth, a daeth cynulliad lliosog ynghyd i weled y ddiod yn cael ei thywallt allan i'r ffordd. Pan oedd un hen frawd yn prysuro yn gyflym tua'r lle, gofynwyd iddo i ba le yr oedd yn myned, a phaham y brysiai; a'i ateb oedd : Rydw i yn mynd i'r claddedigaeth; a byddai yn arw i mi fod ar ol, a minau yn un o'r rhai nesa i'r corff. Traddodwyd anerchiadau gwresog a hwyliog ar yr achlysur. Bu llawer o'r llanciau gwylltion a ddaethant i'r chwarelau yn ddynion rhagorol wedi hyny yn y gymydogaeth, ac y mae plant, ac wynon, a gorwynon llawer o honynt heddyw ymysg y rhai mwyaf defnyddiol sydd i'w cael ynddi.

Ond i ddychwelyd at hanes yr achos yn Aberllefenni. Nid ydym yn gwybod yn sicr pa bryd y cychwynodd yr Ysgol Sabbothol yno. Yn y Drysorfa, 1840, dywedir fel hyn : Yn oes yr Hen Gastell sefydlwyd hefyd Ysgol Sabbothol yn Aberllefenni. Aeth hono yn dair; ac yn awr y mae Col Jones, Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, wedi bod mor haelionus ag adeiladu ysgoldy yn yr ardal hono. Os ydyw y crybwylliad hwn yn gywir, rhaid fod ysgol wedi ei chychwyn yn Aberllefenni rywbryd cyn 1816, ac yn y Ty Uchaf, maen ddiau, y cynhelid hi. Ond nid ydym yn sicr a gynhaliwyd hi yn ddifwlch o'r amser hwnw ymlaen. Yn 1826, pa fodd bynag, yr oedd yn cael ei