chynal yn rheolaidd, ac ambell waith ceid pregeth hefyd yn yr un lle. A digwyddodd rhai pethau digrifol yn y Ty Uchaf. Yr oedd Hugh Humphrey, o Lwydiarth, yn bresenol yn yr odfa un tro. Crybwyllasom mewn penod flaenorol am ei gryfder corfforol; ac mewn ffeiriau byddai weithiau yn gwneuthur gwrhydri fel ymladdwr. Cariai ffon fawr yn gyffredin, a dywedir iddo rai troion gyda'r ffon glirio heol Dinas Mawddwy ar ddiwrnod ffair. Y tro hwn adroddai y pregethwr hanes Joseph; ac yr oedd y cwbl yn dra newydd a dieithr i Hugh Humphrey. Yr oedd ei ffon yn ei law; ac wrth glywed y pregethwr yn adrodd y gamdriniaeth a dderbyniodd Joseph oddiwrth ei frodyr, nis gallai ymatal heb ddatgan ei syndod. Chlywas i rioed 'siwn beth, meddai drachefn a thrachefn; ond wedi clywed y diwedd, tarawodd y ffon yn y llawr, a dywedodd yn uchel, "Myn——, 'daswn i yno !"
Buwyd yn pregethu hefyd yn ysgubor Aberllefenni, pan oeddid yn ail adeiladu y Ty Uchaf. Cafwyd odfa i'w chofio byth yn yr ysgubor, pan oedd Mr. John Morgans, Drefnewydd, yno yn pregethu. Pregethid hefyd yn achlysurol yn y Felin, er mwyn Mary Evans, yr hon a ddioddefodd gystudd trwm am lawer o flynyddoedd. Yn raddol cychwynwyd dwy o ysgolion eraill, y naill yn Cwmcelli, ar llall yn y Fronfraith. Ac nid ymddengys i'r ysgol yn y lle cyntaf gael ei rhoddi i fyny ar unwaith wedi agor yr ysgoldy; canys yn y Drysorfa 1840, dywedir fod y tair yn cael eu cynal yr adeg hono. Bu yr ysgol yn cael ei chynal yn y Fronfraith am flynyddoedd o fewn ein côf ni, ac wedi hyny yn y Waen. Cynhelid cyfarfod eglwysig hefyd yn achlysurol yn y Felin amryw flynyddoedd cyn adeiladeiladu yr Ysgoldy yn Pantymaes. Y rheswm paham y cynhelid ef yno ydoedd, mai teulu y Felin oedd yr unig deulu cyfan a berthynai i'r eglwys. Yr oedd dau o flaenoriaid Corris, fel y gwelwyd eisoes, yn byw yn Aberllefenni, sef Rowland Evans a Richard Owen, a chafodd yr achos trwy hyny