lawer o fanteision yn ei gychwyn. Yr oedd, yn wir, gyflawnder mawr o ddoniau, ac ystyried bychander y nifer, yn yr eglwys hon o'r cychwyn. Ond tua'r flwyddyn 1839 daethpwyd i deimlo fod gwir angen am gapel, neu o leiaf ysgoldy; a chytunwyd i anfon Morris Jones at Col. Jones i ofyn am dir i adeiladu arno. Yr oedd i M. J. ddylanwad mawr gyda'r boneddwr; a chanlyniad ei ymweliad fu i'r boneddwr addaw adeiladu i'w weithwyr ysgoldy ar ei draul ei hun, os byddai i'r ardalwyr gludo y defnyddiau ato; ac yn yr ysgoldy rhoddid caniatad i gynal pob math o wasanaeth crefyddol yn gyson? A hyn cytunwyd yn llawen; ac nid hir y bu y gwaith heb ei ddwyn i derfyniad. Gweddus ydyw cydnabod, yn y fan hon, rwymedigaeth y gymydogaeth i haelioni y boneddwr uchod. Cwbl ddiaddurn oedd yr adeilad, ond yr oedd yn hollol gyfleus at yr amcan oedd iddo; ac yn amgylchiadau y gymydogaeth ar y pryd, anhawdd ydyw prisio yn gywir werth caredigrwydd y boneddwr. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at garedigrwydd cyffelyb ei fab, ychydig gyda deng mlynedd yn ddiweddarach, yn adeiladu ysgoldy ¡ gynal ynddo ysgol ddyddiol, ar yr un amodau yn y Garnedd Wen. Nid ymddengys fod eglwys wedi ei sefydlu am beth amser yn Pantymaes, er y cafwyd pregethu yno o'r cychwyn gyda gradd o gysondeb. Yn Medi, 1840, nid oedd hyny wedi cymeryd lle, gan y dywedir yn y Drysorfa:
"Mae yr haid sydd yn perthyn i Gorris yn yr ardal hono yn awr o gwmpas 60 o rifedi. Ond cyn belled ag y llwyddasom i gael hysbysrwydd nid yn hir wedi hyny y buwyd heb ei sefydlu. Parhawyd, pa fodd bynag, am beth amser i fyned i Gorris ar nos Sabbothau; ac am amser maith wedi i ni gofio byddai y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn dilyn y pregethwr i Gorris, er y cynhelid ar yr un pryd gyfarfod gweddi yn Pantymaes. Yn raddol blinwyd ar hyn; a dechreuwyd, wedi i'r achosion yn Esgairgeiliog a Bethania enill ychydig o nerth, cael pregeth y nos yn achlysurol; nes o'r diwedd y cafwyd hyny yn