Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bynag, fel y crybwyllwyd, collwyd y tŷ trwy gyfrwysdra dichellddrwg y boneddwr erlidgar. Feallai mai y lle cyntaf yr aed iddo i bregethu wedi hyn oedd Penyparc. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru fod tŷ yn Bryncrug wedi cael ei ddirwyo i 20p., am fod pregethu ynddo yn 1795. Ond nid ydym wedi cael allan pa dŷ oedd hwn. Tua'r amser y collwyd tŷ Betti Sion y daeth John Jones, Penyparc, adref o'r ysgol, o'r Amwythig, ac y symudwyd yr achos i Penyparc. Yr oedd y pregethu, a'r moddion eraill, yn cael eu cadw yn y tŷ neu yr ysgubor yno. Cafodd John Jones ei eni yn Berthlwyd Bach, a symudodd ei rieni i Benyparc i fyw, a chymerwyd ganddynt Benyparc a Brynglas Bach ar brydles, am "rent isel," ebe G. Pugh, Berthlwyd. Mae yn ddiameu fod y brydles wedi ei chael cyn fod dechreu pregethu yn yr ardal. Yr hen bregethwr Lewis Morris, yn ysgrifenu oddeutu 1810, a ddywed: "Mr. Lewis Jones, o Benyparc, hefyd, yn more pregethu yn yr ardal, a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd, yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw, fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau o achos Iesu Grist." Yr ydym fel hyn yn gweled fod amgylchiadau wedi bod yn ffafriol i achos y Methodistiaid yn Bryncrug, o'r cychwyn cyntaf. Yr oedd teulu Penyparc yn deulu cyfrifol. Yr oedd gŵr y tŷ yn tueddu i fod yn grefyddol yn more crefydd yn yr ardal, ac yn "agor ei ddrws i arch Duw." Yr oedd ei fab, John Jones, yn ŵr ieuane o 21 i 24 oed y pryd hwn, wedi cael ysgol uwch na'r cyffredin, ac yn rhagori hefyd mewn talent. Nid yw yn wybyddus pa un a oedd wedi ymuno â chrefydd pan y daeth adref o'r ysgol o'r Amwythig. Yn ol tystiolaeth Edward Williams, Towyn, yr oedd yn cydgynal moddion â'r crefyddwyr cyntaf, oddeutu 1792, pan oedd y cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal bob yn ail yn Towyn a Phenyparc. Yr ydym hefyd yn cael hanes y Parch. Owen Jones, y Gelli, pan oedd yn saith oed, yn yr ysgol gyda John Jones, ac felly yr oedd ef yn cadw yr ysgol beth bynag mor fore â'r flwyddyn 1794. Cry-