Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd Iesu yn Llwyngwril, yn fwy nag odid unrhyw fan, ac ni chafwyd neb yma yn gefn, fel y dywedir, i'r achos am faith flynyddau, hyd amser y diweddar Hugh Thomas, y Siop, a'i briod. Eto i gyd, cafwyd ymysg y tlodion hyn, rai nad oeddynt yn ol i neb yn y sir mewn ffyddlondeb a zel.

"Fel engreifftiau i osod allan iselder yr achos Methodistaidd yn y fro yma," ebe awdwr Methodistiaeth Cymru, yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd, gellir crybwyll am ddau ŵr o'r un enw, a elwid, er mwyn eu gwahaniaethu, un yn Sion Vychan fach, a'r llall yn Sion Vychan fawr. Nid oedd y ddau ond tlodion iawn, ond eto fe ymddengys mai arnynt hwy, yn mron yn hollol, y disgynai gofal a chynhaliad yr achos dros ryw dymor. Arferai y ddau ŵr tlawd hyn fyw am wythnos heb enllyn ar eu bara, er mwyn cynilo ychydig o geiniogau i dalu costau ambell i bregethwr tlawd a ddeuai yn achlysurol atynt. Yr hyn a allai y trueiniaid hyn a wnaent:' ac nid oes amheuaeth na fydd mwy o gyfrif yn cael ei wneuthur yn y farn o'u gwasanaeth, nag a wneir o orchestion y rhai a adeiladodd Rufain, neu a ddarostyngodd Gaerdroia!"

Yr oedd Sion Vychan fach yn dad i William Vaughan, Ynysfaig, yr hwn a fu yn flaenor hyd yn lled ddiweddar yn Saron, y Friog; a Sion Vychan fawr yn dad i Griffith Vaughan, yr hwn oedd er's llai nag ugain mlynedd yn ol yn flaenor yn y Bwlch. Ar ysgwyddau y ddau Sion y bu yr achos yn Llwyngwril am amser maith, ac yr oedd y ddau, fel y crybwyllwyd, yn dlodion yn mhethau y byd hwn, ond yn "gyfoethogion mewn ffydd." Bu y ddau gyda'u gilydd, ac un arall yn cadw cyfarfod gweddi am ugain mlynedd i ofyn am ddiwygiad, ac ymhen yr ugain mlynedd fe dorodd y diwygiad allan. Yr oedd Catherine Owen, gweddw y diweddar hen flaenor adnabyddus, Hugh Owen, Capel Maethlon, wedi ei magu yn yr ardal hon. Yr oedd hi yn cofio myned i'r Ysgol Sul i Dyddyn Ithel, pan yn eneth fechan, a Sion Vychan fawr yn ei chario yno ar ei gefn am flwyddyn, a chaffai ei ginio bob