Sul gan ei mam am hyny. Byddai Sion Vychan fach ac yntau yn myned i'r Bala bob yn ail, ar Sabbath cymundeb. Un adeg, yr oedd tro Sion Vychan fach i fyned yno, ond yr oedd heb ddim esgidiau am ei draed. "Ti gei fenthyg fy esgidiau i," ebe Sion Vychan fawr. "Y maent yn rhy fawr i mi," ebe yntau. "Wel, dyro wellt ynddynt," ebe y llall, "fe fyddant yn gynhesach i ti." Felly fu, rhoddodd wellt ynddynt, ac i'w daith fawr i'r Bala ag ef. Wedi ffurfiad yr eglwysi yma ac yn y Bwlch, i'r Abermaw yr elai yr aelodau dros ryw dymor i gael cyfarfod eglwysig, ac yn enwedig i'r cymundeb, pan y digwyddai i rai o wyr blaenaf y Deheudir ddyfod heibio.
Yr Ysgol Sul.
Y tebyg ydyw na ddechreuodd yr ysgol yma gyda dim cysondeb hyd rywbryd wedi dechreu y ganrif hon. Mewn beudy perthynol i ffermdy Tyddyn Ithel y dechreuwyd hi gyntaf. Bu hefyd yn cael ei chynal yn Coed-y-gweddill. Symudwyd hi wed'yn i'r hen Fragdŷ yn y pentref; ac wedi iddi fod yno am ysbaid, prynwyd hen anedd-dŷ, gyda'r bwriad o'i droi yn addoldy, ac yno y cadwyd yr ysgol. Golwg gyntefig oedd ar yr hen dŷ hwn ar y cyntaf; llawr pridd, a'r muriau wedi eu gwyngalchu; nifer o feinciau ar y canol ac wrth y muriau, a dim ond un lle y gellid ei galw yn set o gwbl, a gelwid hono yn briodol iawn yn set fawr. Yr oedd yr hen frodyr a ofalent am yr ysgol yn yr hen dŷ hwn yn bur wladaidd a syml yn eu ffordd. Un o honynt oedd Harri Jones, Prysgae. Ar ol rhoddi gwers i'w ddosbarth o blant yn yr A, B, C, elai yr hen frawd i gysgu, a thra fyddai ef yn yr agwedd hono, diangai y plant allan o un i un, a phan ddeffroai byddai yn hen bryd iddo fyned ar eu hol i'w hymofyn yn ol i'r ysgol. Pedwar o'r hen athrawon mwyaf blaenllaw a zelog oeddynt Sion Vychan fach, Sion Vychan fawr, Sion Evan, Coedmawr, a Sion William. Dywedir y byddai yn arferiad gan un o'r hen frodyr hyn, pan yn diweddu yr ysgol, i fyned