Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhai hyn gyda geiriau unsill, yna dwy sill, yna tair sill, ac wedi hyny darllen yn y llyfrau bach. Ar ol gorphen y rhai hyn, dodid hwy i ddarllen yn y Testamentau; a'r gris olaf mewn darllen fyddai eu symud i'r Hen Destament. Dysgid hefyd yn yr ysgol y rhifnodau, yr atalnodau, a'r "nodau cyfeiriol," a "phob nodau sydd yn y Gair;" ystyr geiriau, ac elfenau cyntaf Gramadeg. Ond ni fyddai ond ychydig iawn byth yn myned mor bell a Rhifyddiaeth.

"Ond i fyned ymlaen i roddi ychydig o hanes yr ysgol. Yr oedd yn perthyn iddi dros 60; ac fe fu yr ysgolheigion yn dda wrthynt eu hunain, trwy barhau i raddau mawr o ffyddlondeb a diwydrwydd i ddyfod i'r ysgol, gan brynu yr amser, a pheth mwy a ellir ei ddweyd am lawer o honynt, hwy a ddefnyddiasant y cyfleusdra trwy ymdrech, a llafur, ac ufudd-dod i ddysgu yr hyn a orchymynwyd iddynt, neu a osodwyd iddynt yn ddognwaith; ac yn eu hymdrech fe fu llawer o lwydd ar eu llafur, fel y gellir dywedyd nad aeth eu llafur yn ofer. . . . Ond am eu llafur a'u llwydd mewn pethau mwy eu pwys, sef y pethau sydd yn perthyn mewn modd uniongyrchol er eu hadeiladaeth ysbrydol, y Catechism, ac amryw weddïau, i'w hymarfer ar amryw achlysuron, a llawer o'r Gair yn benodau a Salmau, a llawer o adnodau ar amryw o faterion, ynghyd ag amryw ranau o esboniad Mr. Griffith Jones ar y Catechism, yr hwn y byddai yn dda genyf ei ddysgu i gyd iddynt o'i gwr, ond yr anfantais i ymosod ar hyny mewn modd neillduol yn bresenol ydyw diffyg llyfrau; y modd y dysgasant y rhanau a ddysgasant oedd trwy eu hysgrifenu ar docynau o bapyr, a'u roddi iddynt i'w dysgu. Llawer o lafur a fu ac y sydd yn y gorchwyl hwn. Yr wyf yn cydnabod mewn diolchgarwch fy rhwymedigaeth i bawb a gymerodd yr Arglwydd yn ei law yn offerynau er fy nghynal o ran trugareddau naturiol, ac yn ddiweddaf oll i chwithau am eich ffafr a'ch anrheg i mi. I Dduw a'n Tad ni y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Y