Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ddiwrnod gwaith i Ffestiniog. Priododd ferch ieuanc rinweddol o ardal Bettws-y-coed, o'r enw Hanah Roberts. Yr oedd hi yn wraig dda, serchog, a chrefyddol. Dywedai ei phriod ar ol ei chladdu ei fod wedi cael braint fawr cael cydfyw ag un mor grefyddol. Buont il dau yn byw yn Bettws-y-coed ar ol priodi, ac yr oedd O. Roberts yn gweithio yn Rhiwbach. Symudasant i fyw i ardal Bethesda, Blaenau Ffestiniog, ac yntau yn gweithio ei waith o hyd yn y chwarel. Ni chafodd bron ddim ysgol ddyddiol, ac ni fu mewn athrofa. Eto yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn feddyliwr mwy, ac yn ysgrifenwr sylweddol. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Dolgellau, yn 1857. Oddeutu y pryd hwn, gosododd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ef yn fugail ar daith Rhiwspardyn. Yr oedd yn byw yn nhŷ capel Rhiwspardyn, ac yn gofalu am yr eglwys yno, a Rhydymain, a Carmel, Rhoddai yr eglwysi ychydig at ei gynal, a'r Cyfarfod Misol £15. Dyn tawel, addfwyn, ac o duedd ddistaw a meddylgar ydoedd. Pregethwr efengylaidd, a neillduol o gymeradwy er pan oedd yn ddyn ieuanc. Defnyddiai lawer o gymhariaethau yn ei bregethau; elai ymlaen yn arafaidd wrth draddodi, ac yn raddol cyfodai yn uwch nes y byddai y gwirionedd wedi cydio ynddo, ac yntau wedi cydio yn ei wrandawyr; yr oedd tôn ei lais hefyd yn fanteisiol iawn i enill tyrfa o bobl. Bu tymor ar ei weinidogaeth y byddai yn cael odfeuon hynod o rymus. Ond yn fuan ar ol ei ordeinio daeth cwmwl drosto, a bu raid ei atal am ysbaid o bregethu. Ond cymaint oedd awydd ei gymydogion iddo gael ei le yn ol, fel y llwyr adferwyd ef ymhen ychydig flynyddoedd. Rhoddodd eglwysi Llwyngwril, Saron, a Sïon alwad iddo, ac ymsefydlodd yn Llwyngwril yn y flwyddyn 1864. Bu farw yn orfoleddus Chwefror 23, 1877, yn 57 mlwydd oed.

LLANEGRYN

O ddechreuad y pregethu cyntaf gan y Methodistiaid yn y