Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chynghori eu gilydd i fyw yn grefyddol. Byddwn inau yn myned i'w plith, ac yn cael fy ngoddef ganddynt, a derbyniais yn eu cyfeillach lawer iawn o les a chysur crefyddol. Yr oeddynt hwy mewn undeb âg eglwys Dduw yn Bryncrug, ac yno yn derbyn yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Aethum gyda hwy i Fryncrug, a chefais fy nerbyn yno ar eu tystiolaeth hwy am danaf."

Ysgrifenwyd y paragraff canlynol gan y Parch. Owen William, Towyn, ac y mae yn sicr o fod yn gywir, gan ei fod yn llygad-dyst o'r hyn a ysgrifena:—"Yr oedd y pryd hwnw bump o grefyddwyr yn perthyn i'r Methodistiaid yn Llanegryn —pedwar o wyr, ac un ferch ieuanc; ac yr oedd yno Ysgol Sabbothol hefyd. O'r Bwlch y byddent yn cael cynorthwy i gadw yr ysgol. Darfu i bobl y Bwlch fy ngosod i fod yn Llanegryn bob Sabbath i ofalu am yr ysgol; yr oeddwn yn bur falch o'm swydd, a daeth yno ysgol led siriol, ac ymunodd rhai â'r society. Cedwid yr ysgol yn mharlwr Penybanc, tŷ tafarn; a byddem yn fynych yn cael pregeth ar y Sabbath, y boreu, neu ddau o'r gloch, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr. Yr wyf yn meddwl mai yr amser mwyaf dedwydd a difyrus a aeth dros fy mhen ydoedd yr amser y bum yn golygu tipyn ar yr Ysgol Sabbothol yn Llanegryn." Yr oedd hyn oddeutu y flwyddyn 1805, ac yn Llanegryn y pryd hwn y dechreuodd Owen William bregethu. Gwelir mai yn araf iawn yr oedd yr achos yn cynyddu yn Llanegryn; tri oedd yn proffesu yn y plwyf cyn i deulu Cadben Humphreys fyned i fyw i Beniarth, yn flaenorol i 1795, fwy na deng mlynedd o amser cyn yr adeg y crybwylla O. W. am dani.

Hynodid y trigolion fel rhai mwy paganaidd ac anwybodus na'r cyffredin o'u cydoeswyr. Oddeutu 1793, deuai y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ac un neu ddau gydag ef o'r dref hono, i Lanegryn, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïau. Adroddai yn agos i ddiwedd ei oes am ymddygiad y bobl yn y cyfarfodydd hyn. Un tro, a hwy yn cynal cyfarfod gweddi