Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf i'w gael ynddi heddyw. Symudodd rhai i leoedd eraill, yn nghwrs Rhagluniaeth, ac y mae dau wedi eu symud trwy farwolaeth. Abraham Lewis a ddewiswyd yma yn flaenor. Yr oedd yn ŵr ieuanc dymunol, gweithgar, ac addawol. Aeth oddiyma cyn hir i Cwmyglo, Arfon. Parhaodd ei gymeriad yn ddisglaer, a bu farw yn orfoleddus.

Samuel Williams, Rugog. Yr oedd ef yn un o'r blaenoriaid galluocaf a rhagoraf ar lawer cyfrif a fu yn y wlad yma erioed. Gwasanaethodd y swydd mewn pedair o eglwysi—Corris, Aberllefeni, Abergynolwyn, a Bethania. Ond gan mai ynglŷn a'r eglwys hon y diweddodd ei oes, ac y bu, feallai, o fwyaf o werth i achos crefydd, priodol ydyw gwneuthur coffhad am dano yma. Daeth i'r ardaloedd hyn o Sir Gaernarfon, yn ddyn ieuanc, oddeutu y flwyddyn 1825. Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Edward Rees yn pregethu yn ystabl y Fronfelen, oddiar Luc xiv. 24. Ymunodd â chrefydd yn fuan. Yr oedd ei wraig hefyd o gysylltiadau crefyddol, a rhwng y naill beth a'r llall, daeth yn ddyn defnyddiol o gychwyniad cyntaf ei grefydd. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Corris, yr un pryd a William Jones, Tanrallt, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Awst 31ain, 1843. Ond ynglŷn âg eglwys Aberllefeni y llafuriodd y darn cyntaf o'i oes, am ei fod yn byw yn Ffynonbadarn, yn rhan uchaf yr ardal hono, ac nid oedd Aberllefeni wedi ymwahanu oddiwrth Gorris am hir amser wedi iddo ef gael ei ddewis yn flaenor. Yr oedd yn byw yn Bryneglwys, Abergynolwyn, yr amser y torodd tân y Diwygiad mawr allan, a chyfranogodd yntau yn helaeth o hono. Bu yn nodedig o weithgar i gyfodi crefydd mewn eglwysi bychain, ac yr oedd ynddo gymhwysder arbenig i wneyd hyny. Meddai ar ffydd gref anarferol, nid ffydd gadwedigol yn unig, ond ffydd i fentro ymlaen gyda chrefydd trwy anhawsderau. Yr oedd yn berchen ar gymeriad cryf, tebyg i eiddo y patriarchiaid, yn "gadarn yn yr Ysgrythyrau," ac yn weddïwr mawr. Nid oedd ei ddawn yn rhwydd, ond wedi iddo wresogi a dechreu cael