Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/195

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bedair neu bum' mlynedd, neu beth ychwaneg. Tuedd gyffredin y pregethwyr a'r crefyddwyr cyntaf oedd, osgoi y trefydd a'r pentrefydd, oherwydd fod y fantais yn fwy mewn amseroedd o erledigaeth, iddynt ymgynull ynghyd mewn manau anghyhoedd ac anghysbell. Caent mewn lleoedd felly fwy o lonyddwch i addoli. Yr oedd Towyn yn un o fanau glân y môr, a'i thrigolion yn meddu cymeriad trigolion glân y môr, yn erlidgar, ac i fyny â phob drygioni. Prawf o hyny ydoedd eu hymddygiad tuag at y fintai o grefyddwyr y sonia Robert Jones, Rhoslan, am danynt, yn Nrych yr Amseroedd, y rhai a ddychwelent o Langeitho ar hyd y tir trwy Aberdyfi a Thowyn. Er nad oeddynt ond yn myned trwy y dref, fel pererinion, yn heddychol a thangnefeddus, eto cyfododd y trigolion yn greulon yn eu herbyn, gan eu lluchio â cherig, a'u baeddu yn dost. Rhoddwyd hanes y fintai hon yn helaethach mewn penod flaenorol. Yr oedd y dref y pryd hwn yn dipyn o borthladd; rhedai y môr oddiwrth Bont Dysyni i ymyl y dref, a cherid ymlaen swm gweddol o fasnach trwy y badau a'r llongau; adeiledid llongau o gryn faintioli y tu cefn ac wrth ymyl y lle y safai hen gapel y Methodistiaid yn y Gwalia. Cyfodid mawn yn y morfa, a gwneid hwy yn deisi ar ben y clawdd llanw, yn nghysgod pa rai yr ymgasglai yr ychydig grefyddwyr cyntaf i gydweddio. Eto, trigolion glân y môr oedd y trigolion yn eu cymeriad a'u harferion. Yr oedd y races ceffylau hefyd, a gynhelid yn flynyddol, ar y morfa gerllaw y dref, lle yr elid drwy bob math o gampau annuwiol yr amseroedd, yn fynegiad tra chywir o ansawdd foesol isel pobl y lle. Heblaw hyny, o fewn milldir i dref Towyn yr oedd palas y teyrn-erlidiwr, gan yr hwn y cai y bobl, druain, bob cefnogaeth i ddilyn gwag-chwareuon, ac i gyflawni y pechodau a ddinystrient y corff' a'r enaid, a phob anghefnogaeth i grefydd ddyfod yn agos i'w tai. Rhydd y pethau hyn gyfrif fod y dref ychydig flynyddoedd ar ol yr ardaloedd o'i deutu yn croesawu y "newyddion da."