Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/197

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadw ysgol ddyddiol oddiarno. Wedi colli yr ysgoldy yn Penyparc, cafodd fyned i Dowyn i gadw ysgol, i dŷ bychan oedd gan Francis Hugh. Bu yno am flwyddyn, o leiaf. Erbyn hyn, yr oedd tri wyr da yn Nhowyn, Edward Williams, Francis Hugh, a John Jones—y rhai a geisient bregethwyr yno ac i Aberdyfi, a chynhelid y moddion o tan y gwyrchoedd, neu wrth ochr y llongau, neu yn unrhyw le y ceid llonyddwch. Erbyn 1795, yr oedd y disgyblion wedi amlhau, yr hyn a barodd i'r boneddwr erlidgar oedd yn byw yn y gymydogaeth ffromi yn aruthr, a'r flwyddyn hono y cyrhaeddodd yr erledigaeth ei phwynt eithaf. Mewn canlyniad, gwnaed ymdrech gyffredinol trwy yr holl wlad i drwyddedu y tai i bregethu. Cafodd tŷ Edward Williams, yn y Porthgwyn, ei drwyddedu y flwyddyn hon. Hysbysir hefyd fod Tŷ Shoned," yn y Gwalia, wedi ei gymeryd i gadw moddion ynddo ar ol hyn am dymor. Ond er fod rhyddid cyfreithiol wedi ei sicrhau, ac amddiffyn y gyfraith wedi ei gael dros y pregethwyr a'r crefyddwyr, parhaodd yr erledigaeth a'r rhwystrau ar ffordd yr achos eto, i fesur helaeth, am ysbaid deng mlynedd, ac nid oedd yr achos am yr ysbaid hwnw ond megis myrtwydd yn y pant.

Yn nechreu y ganrif hon, ymddengys i ryw gymaint o ddeffroad crefyddol gymeryd lle yn Nhowyn, a chafodd yr achos symbyliad i fyned rhagddo. Un achos o'r deffroad hwn ydoedd dechreuad yr Ysgol Sabbothol. Ceir tystiolaeth o amryw fanau mai y Parch. Owen Jones, wedi hyny o'r Gelli, a fu yn offery i'w dechreu hi yn y dref. Yn 81, adroddai Hugh Edwards, Gwalia, hen flaenor parchus gyda'r Methodistiaid, yr ychydig ffeithiau canlynol. Tua'r flwyddyn 1803, daeth Mr. Jones i aros gyda'i rieni (y rhai a breswylient yn y Crynllwyn, heb fod yn nepell o'r dref) am ychydig amser wedi iddo orphen ei brentisiaeth fel saddler yn Aberystwyth, ac yn ŵr ieuanc llawn o zel ac awydd gwneuthur daioni, efe a ddechreuodd gadw ysgol nos yn nhŷ un Rhys Shôn, Gwalia. Dechreuid y cyfarfodydd trwy ddarllen a gweddïo, yn debyg fel