Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/216

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae i'w dalu y mis nesaf eto 2p 10s. Os gellwch eu cynorthwyo, chwi a wnewch garedigrwydd i achos yr Arglwydd yn Mhennal. D.S., addawyd yn Nghorris, yn y Cyfarfod Misol, i dalu 20p. o gorff yr hawl mor fuan ag y gellid, er mwyn lleihau eu baich. Byddai yn dda gan yr un a'i rhoddodd ar y llog eu cael yn bresenol, os oes modd. Yr oeddwn yn meddwl, wrth addunedu gosod y deisyfiadau uchod ger eich bron, bod yn y Cyfarfod Misol fy hun, ond fe'm lluddiwyd gan Ragluniaeth trwy afiechyd fy ngwraig.

"Anwyl dadau, gwrandewch ar eu cwyn, er mwyn achos yr Arglwydd sydd yn eu plith, ac enw yr Arglwydd sydd arnynt. Y neb a'u hadwaenant, ac a ŵyr am yr achos yn eu plith, a wyddant eu bod yn wrthddrychau addas i dosturio wrthynt mewn trugaredd, trwy eu cynorthwyo yn yr achos mwyaf. Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall,' a fyddo yn eich plith. Hyn yw deisyfiad eich annheilyngaf was yn yr Arglwydd,

LEWIS WILLIAMS."

Helaethwyd y capel hwn drachefn yn 1850, ar draul o 80p. Ac yr oedd 40p. o'r ddyled heb ei thalu pan yr aed i adeiladu. y capel presenol, ddeunaw mlynedd yn ol. Cedwid Ysgol Sabbothol yn yr amser cyntaf mewn amryw dai yn yr ardal—Pompren, Tywyllnodwydd, a'r Ffatri Uchaf. Pan oedd Lewis. William yma, yn mis Chwefror, 1820, tynwyd allan nifer o benderfyniadau mewn cyfarfod athrawon, gyda golwg ar gymwysderau athrawon, a'u dyledswyddau, megis, eu bod i ddyfod ynghyd at yr awr apwyntiedig, i beidio ysbeilio amser yr ysgol trwy feithder wrth ddechreu a diweddu, i adael i'r ysgoleigion ledio penillion ar ganol a diwedd yr ysgol, a bod yr arolygwr i alw athraw pob dosbarth ar y diwedd, ac iddo yntau a'i ddosbarth fyned allan gyda'u gilydd, &c. Y daith Sabbothol ar y cyntaf oedd, Pennal, Maethlon (Tŷ'nypwll), ac Aberdyfi. Wedi hyny, bu Pennal ac Aberdyfi am dymor gyda'u gilydd. Mae pob un o'r ddau le yn awr yn daith arno