Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/223

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd dau frawd yn byw yn Dyffryn-gwyn, Daniel ac Evan Jones, y rhai ynghyd â'u teulu oeddynt yn hynod grefyddol, ac ymunasant â'r Ymneillduwyr cyntaf oedd i'w cael yn yr ardaloedd. Rhoddodd Edward Williams, y crefyddwr cyntaf yn Nhowyn, dystiolaeth ysgrifenedig o hyn cyn ei farw. Elai Daniel ac Evan Jones i lawr i Dowyn i gyd-gynal moddion gyda yr ychydig grefyddwyr oedd yno, ac elent hwythau i fyny oddiyno i gyd-gynal moddion yn Dyffryn-gwyn. Buont hwy eu dau, a'r ddau grefyddwr cyntaf o Dowyn, a John Lewis, Hen Felin, y crefyddwr cyntaf yn Aberdyfi, yn cyd-weddïo llawer gyda'u gilydd, weithiau yn eu tŷ eu hunain, neu yn yr Hen Felin, neu yn nghysgod gwrychoedd, neu ar lan y môr. Y cynulliadau hyn yn Dyffryn-gwyn fu dechreuad yr achos yn Maethlon, ac fe ddywedir i'r ddau ŵr da hyn recordio eu tŷ i bregethu ynddo. Byddent yn cynal addoliad teuluaidd yn gyson yn eu tŷ. Yr oedd Daniel ac Evan Jones yn amaethwyr cyfrifol, ac yn fwy deallus na'r cyffredin. Yn ol tystiolaeth Edward Williams, neillduwyd y ddau yn flaenoriaid gan y Cyfarfod Misol, a gosodwyd hwy i ofalu am yr achos yn ei gychwyniad cyntaf yn Maethlon ac Aberdyfi. Ond oherwydd yr erledigaeth fawr a gyrhaeddodd ei phoethder yn 1795, dylanwadodd gelyniaeth teulu yr Ynys ar berchenog Dyffryn-gwyn, ac ymhen amser gorfu i'r tenantiaid ymadael oblegid eu crefydd. Symudodd Daniel Jones i ardal Tregaron, yn Sir Aberteifi, a gweithiodd Rhagluniaeth yn rhyfeddol o'i du. Bu ef a'i deulu ar ei ol yn dra ffyddlon i grefydd yn y sir hono.

Wedi cael rhybudd i ymadael o'r Dyffryn-gwyn, oherwydd yr erledigaeth, dywedai Daniel Jones wrth ei wraig, "Wel, mae yn rhaid i ni ddewis un o ddau beth, un ai ymadael â Dyffryn-gwyn, neu ymadael â chrefydd. Pa un oreu i ni ei wneyd?' "Pa un oreu?" ebe ei wraig, "ydych chwi yn petruso, Daniel? Nid wyf fi yn petruso dim; nid oes dim doubt genyf fi am fynyd; mi wn i mai crefydd ddewisaf fi, aed Dyffryn-gwyn lle yr elo." Daniel Jones ei hun a adroddai