Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/236

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Vaughan Jones, ac i Lanerchgoediog, at Griffith Owen, dau wr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o £20 bob un, i gymeryd y llwon angenrheidiol, ac felly yr aeth yr ystorom hono heibio."

Ar ol y digwyddiad hwn, ni cheir fawr o ddim hanes sicr am: yr eglwys hon dros ysbaid 30 neu 35 mlynedd. Eto, yr oedd yma achos o hyd er y dechreu cyntaf, oblegid dywedir yn hanes bywyd Harri Jones, Nantymynach—yr hwn a ysgrifenwyd, mae'n debyg, gan J. Jones, Penyparc, y mwyaf hysbys o: bawb yn hanes yr ardaloedd hyn—fod y gŵr da hwnw, er yn flaenor yn Bryncrug hyd ddiwedd ei oes, yn gofalu cadw moddion ddwywaith y Sabbath yn Llanerchgoediog. Ar y cyntaf, nid oedd yno fawr neb ond ef a'i deulu yn aelodau crefyddol. Ac wedi i'r aelodau gynyddu, perthyn i eglwys Bryncrug yr oeddynt, a pharhaent i fyned i lawr yno ddau o'r gloch y Sabbath, ac i'r cyfarfod eglwysig nos Wener am lawer o flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1817, yr oedd Robert Jones, Rhoslan, ar daith rhwng y Ddwy Afon, ac yn pregethu ar ddydd Sadwrn yn yr ardal hon; Nantymynach ydyw yr enw sydd ganddo yn ei Ddyddiadur am y lle, a derbyniodd swllt fel cydnabyddiaeth. Yn y flwyddyn 1818, yr oedd Lewis William, Llanfachreth, yma yn cadw ysgol ddyddiol, ac yr oedd ganddo 30 o blant yn yr ysgol. Y flwyddyn hono hefyd yr oedd cyfarfod athrawon taith Sabbath Bryncrug yn cael ei gynal yn Llanegryn, ac yn y cyfarfod hwnw, pasiwyd penderfyniad gan yr athrawon, i ddiolch 1 Harri Jones, Nantymynach, blaenor ysgol Llanerchgoediog, am ei bresenoldeb yn y cyfarfod, ac am ei wasanaeth i'r Ysgol Sabbothol." Dengys hyn mai efe oedd arolygwr yr ysgol, ac efe yn wir oedd pobpeth yr achos yn y lle hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf, 1823. Anfonodd un o gyfeillion y lle, Mr. Howell Jones, Doldyhewydd, ychydig o hanes dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Abertrinant i ni ryw bedair blynedd yn ol. Dywed ef ar ol gwrando a sylwi ar y traddodiadau yn yr ardal, mai yn meudy