Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/242

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

boreu, ac yn cael ei gysgodi gan y bryniau o'r tucefn rhag gwynt y Gogledd, ac y mae felly yn fanteisiol iawn i bobl weiniaid auafu, yn gystal ag yn at-dyniad i ymwelwyr o bob. gradd yn yr haf.

Er fod Aberdyfi, hyd yr amser y cyfeiriwyd ato, yn ddinod a llwydaidd yr olwg arno, eto, bu yn lle nid anenwog mewn cysylltiad â hynafiaethau a hanesiaeth yr oesoedd a aethant heibio. Yr oedd unwaith yn brif borthladd môr-gilfach Ceredigion. Y mae yn bresenol, hefyd, yn prysur gyfodi i sylw yn yr ystyr hwn. Bu hen gewri y Cymry, yn wleidyddwyr, rhyfelwyr, beirdd, a llenorion, yn chwareu rhan bwysig yma. Gan fod y lle ar derfynau y De a'r Gogledd, dioddefodd yn arw lawer tro oddiwrth gadgyrchiadau a wneid gan Dywysogion y Taleithiau i feddianu hawliau a thiriogaethau y naill a'r llall. Dywedir hefyd i long Hispaenaidd ddyfod i borthladd Aberdyfi yn 1597, gyda'r bwriad o anrheithio y trigolion. Ac ymddengys oddiwrth ryw linellau sydd ar gael, fod y newydd am dani wedi ymdaenu yn ebrwydd ar led, a bod y beirdd wedi codi i fyny yn llu i fwrw allan eu taer ddymuniadau am i'r llong hon gyfarfod a'r un dynged a'r Spanish Armada yn 1588, yr hyn hefyd a gymerodd le, gan i'r gwynt ei hyrddio yn ol i'r môr cyn iddi lanio. Crybwyllir y pethau hyn yn unig i roddi rhyw syniad am y porthladd yn yr oesoedd a basiodd.

Y mae sicrwydd fod yn Aberdyfi "achos" amser maith cyn adeiladu y capel cyntaf, yn 1828. Yr oedd wedi dechreu mewn rhyw wedd ddeugain mlynedd yn gynt. Yr hanes cyntaf ar gael o berthynas i'w ddechreuad ydyw, am un o'r enw John Lewis, yr Hen Felin, yn derbyn pregethu i'w dŷ. Efe, ynghyd ag Edward Williams, Towyn, a'r ddau Jones, o— Dyffryngwyn, oeddynt y pedwar cyntaf yn mhlwyf Towyn a ymunasant â'u gilydd i gyd-weddïo, mewn unrhyw fan y caent dawelwch a llonyddwch. Y mae sicrwydd eu bod yn cyd-gyfarfod ac yn derbyn pregethu i'w tai ryw gymaint o amser