Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/247

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyson yn y Cyfarfod Misol. Elai y Casgliad Chwarterol i dalu dyled y capelau yn y sir, neu, feallai, yn y Gymdeithasfa yr adeg yma, a'r swm o Aberdyfi oedd 8s. y chwarter; a swm y Casgliad Bach, sef yr un a'r Casgliad Misol, yr hwn a delir yn y Cyfarfod Misol bob mis hyd yn bresenol, oedd 6c. Yr oedd hefyd yr hyn a elwid Casgliad yr Ysgol, sef y swm o 28. 6c. yn chwarterol, ac a delid yn rheolaidd yn y Cyfarfod Misol. Ac yr oedd Lewis Williams wedi ei benodi i dalu y rhai hyn dros yr eglwys i'r Cyfarfod Misol er y flwyddyn 1816, pryd nad oedd neb ond y chwiorydd yn gofalu am yr achos. "Mehefin 15, 1816, mewn cydgynulliad fe benderfynwyd i mi weinyddu dros yr eglwys yn Aberdyfi yn y Cyfarfod Misol, i dalu eu casgliadau yn eu hamser priodol, &c." Pan yn rhoddi gofalon pethau allanol yr eglwys i ofal y meibion, nid oes son am dalu diolchgarwch i'r chwiorydd, y rhai a fu mor ffyddlon a diwyd gyda holl amgylchiadau yr achos am gynifer o flynyddau, yr hyn yn sicr a ddylesid ei wneuthur. Ond er na roddwyd diolchgarwch yn ffurfiol iddynt y mae eu henwau yn barchus. ac yn berarogl oherwydd y gwaith a wnaethant gydag achos yr Arglwydd yn ei fabandod yn Aberdyfi.

Gwnaeth L. W., hefyd, waith mawr yn Aberdyfi, fel gofalwr manwl am yr achos yn ei holl ranau, canys bu yno yn cadw ysgol lawer o wahanol gyfnodau yn ystod y tymor rhwng 1800 ac 1824. Lle bynag yr arosai ef, byddai pob gewyn o hono ar waith yn gwneuthur "daioni i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu y ffydd." Anhawdd, os nad anmhosibl, cael neb mor debyg ag oedd ef i Timotheus, "Yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi." Yr oedd serch y trigolion wedi ymglymu cymaint wrtho, fel, pryd bynag yr elai i Aberdyfi, i bregethu, unrhyw adeg ar ei oes wedi hyn, y byddai yr hen bobl yn barod i'w gofleidio. Prawf o'i ddirfawr fanylwch ydyw y papyrau y mae wedi gadw am waith yr Arglwydd yma a manau eraill rhwng y Ddwy Afon. Pan yr oedd yma yn cadw ysgol yn 1817, anfonwyd llythyr ato oddiwrth flaenor-