Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/258

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw yr adroddiad, ynghyd â sylwadau ychwanegol a ymddangosasant yn y Drysorfa, Mai 1869:—

Adroddiad y Cyfeisteddfod a benodwyd i wneyd ymchwiliad
i ystâd yr Achos Saesneg yn Nhowyn.

"Yn ol penderfyniad Cyfarfod Misol Dolgellau, ni a aethom i Dowyn, dydd Sadwrn, Ionawr 16eg, i wneyd ymchwiliad i sefyllfa yr Achos Saesneg yn y lle. Daeth Mr. Newell a dau neu dri o'r brodyr sy'n cynorthwyo i gario yr achos ymlaen, ynghyd â Mr. Rees, i'n cyfarfod.

"Mae y moddion yn cael eu cadw yn yr Assembly Room, ystafell brydferth, yr hon sydd wedi ei pharotoi a'i dodrefnu yn gyfleus ar draul Mr. Newell ei hun. Dechreuwyd yr achos yn mis Mehefin, 1868. Cynhelir, fel rheol, ddwy bregeth y Sabbath, ac ysgol. Ni bu yr un Sabbath o hyny hyd yn awr heb ryw gymaint o bregethu. Mae yr ystafell yn ddigon eang i gynwys 150. Yn yr haf byddai yn llawn, yn enwedig ar nos Suliau, Yn misoedd y gauaf rhifedi y gwrandawyr ydyw o 40 i 50. Fel esiampl, yr oedd y rhif ar ddau Sabbath agosaf at eu gilydd yn mis Ionawr fel y canlyn—Yr ail Sabbath o'r mis, boreu, 24; nos, 50. Y trydydd Sabbath, boreu, 29; nos, 44. O'r rhai hyn, yr oedd yr haner, o leiaf, yn Saeson. Rhoddwyd enwau i'r pwyllgor yn agos i 40—0 Saeson uniaith, y rhai sydd yn arfer dyfod i wrandaw yn eu tro. Mae yn yr ysgol bedwar o ddosbarthiadau, oll gyda'u gilydd yn rhifo tua 25. Nid oes yr un o'r Saeson ar hyn o bryd yn aelod eglwysig. Mae 11 o aelodau o'r eglwys Gymraeg yn dilyn y moddion Saesneg yn gyson, i'r rhai y rhoddwyd caniatad gan eglwys y Gwalia. Er's amryw fisoedd bellach, mae y society yn aros yn ol bob nos Sabbath, ac wedi cyfarfod rai gweithiau ganol yr wythnos, ond hyd yma y maent yn perthyn i'r eglwys Gymraeg, ac yn myned i'r capel Cymraeg i dderbyn y Cymundeb.

"Cynhelir yr achos yn benaf trwy roddion gwirfoddol y