Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/26

Gwirwyd y dudalen hon

dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwyr llen a gwyr lleyg, yn gyffelyb i'w gilydd; y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orchymynion sanctaidd Duw, ac yn dra esgeulus o'r addoliad. Glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio'r wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth a'r addysgiadau yn y llanau, yn gyffredin, ond yn dywyll a dirym iawn i wrthsefyll a diwygio oddiwrth y pechodau gwaeddfawr hyn. Nid oedd ynddynt nemawr o son am drueni gwreiddiol dyn, am ffydd yn Nghrist er cyfiawnhad pechadur, ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân." Dywedai John Evans fod pob rhan o'r wlad yn debyg yr amser hwn, ac adroddodd yr hanes am ddechreuad crefydd yn y Bala, Dolgellau, a'r Abermaw, ond dyma y lleoedd agosaf i Ddosbarth y Ddwy Afon y cyrhaedda ei adroddiad. Dosberthir profion o wirionedd hanesiaeth, yn gyffredin, i ddwy ran,—profion allanol a phrofion tufewnol. Y profion allanol ydynt, y pethau a geir y tuallan i faes yr hanesiaeth, yr hyn a ddywed eraill am dano, hanesiaeth gyffelyb mewn manau eraill yn yr un cyfnod, tystiolaeth dynion oeddynt yn byw yn yr un amser, megis y dystiolaeth uchod gan yr hybarch John Evans, o'r Bala. Y profion tumewnol ydynt y pethau a geir yn yr hanes ei hun, enwau personau a lleoedd, a digwyddiadau, y rhai a arhosant yn barhaus yn dystiolaeth fod y peth a'r peth wedi digwydd yn y lle a'r lle, yr amser a'r amser. A rhwng profion allanol a phrofion tufewnol, denir yn lled gyffredin o hyd i'r gwirionedd. Pe buasai llawer llanerch o'r gongl hon o'r greadigaeth, ar gwr de-orllewinol Sir Feirionydd, yn meddu tafod i lefaru, llawer o bethau rhyfedd a fuasai ganddynt i'w traethu am yr hyn a gymerasant le ymhlith y trigolion gan mlynedd yn ol. Yn wir, y mae tafodau amryw i'w cael yn yr enwau sydd ar leoedd yma ac acw, wedi cael eu bodolaeth oddiwrth hen arferion yr oes o'r blaen. Y mae llawer o enwau hyd heddyw yn Nghymru yn profi fod yr hen Rufeiniaid wedi bod yma yn byw. Y mae enwau hefyd i'w