Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/262

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Superintendent Hughes, Mr. Bowstead, a Mr. E. Morgan Jones."

Ffaith hynod mewn cysylltiad â dechreuad yr achos Saesneg yn Nhowyn, ac na ddigwyddodd i neb sylwi arni hyd ddwy flynedd yn ol, ydyw, iddo gael ei ddechreu yn yr un llecyn ar y dref ag y dechreuwyd yr achos Cymraeg. Yn y Porthgwyn y safai y tŷ a gofrestrwyd yn Chwarter Sesiwn y Bala i bregethu ynddo yn ol y gyfraith, yn 1795. Yn union yn yr un fan, sef yn y Porthgwyn, yr adeiladwyd yr Assembly Room yn 1868, i gychwyn yr achos Saesneg cyntaf yn y dref, a'r ochr arall i'r heol, o fewn ychydig latheni i'r tŷ cofrestredig yr adeiladwyd y capel Saesneg cyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Sir Feirionydd.

Mae yn deilwng coffhau mai y gwr fu yn brif offeryn i ddechreu yr achos Saesneg yn Nhowyn ydoedd Mr. Evan Newell, Esgian Hall. Wedi dyfod yma i breswylio o Sir Drefaldwyn, ryw ddeg neu ddeuddeg mlynedd cyn hyny, teimlai yn ddwys oherwydd hollol amddifadrwydd y Saeson o'r efengyl yn eu hiaith eu hunain. Apeliodd am gynorthwy i gychwyn yr achos drachefn a thrachefn, ac wedi tair neu bedair blynedd o geisio yn ofer, ymgymerodd a'r anturiaeth ei hunan yn 1868. Gwr ydoedd ef yn llawn o anturiaeth, o yni, ac o ffydd. Gweithiodd yn ddiwyd a di-ildio gyda'r symudiad, nes gweled eglwys wedi ei ffurfio yn rheolaidd, gweinidog wedi ei sefydlu i ofalu am yr eglwys, capel hardd wedi ei adeiladu, a'i ddyled bob dimai wedi ei thalu. Heblaw diwydrwydd diball i gael eraill i weithio, bu yn dra haelionus at achos crefydd y blynyddoedd y bu mewn cysylltiad a'r eglwys hon. Gweithiodd eraill hefyd o'r dechreuad yn deilwng o ddisgyblion ffyddlon yr Iesu, ond tra fyddo yr achos Saesneg yn Nhowyn ac yn Sir Feirionydd mewn bod, bydd enw Mr. Newell yn haeddu cael ei goffhau fel y prif ysgogydd yn ei gychwyniad. Ymfudodd er's tua phum' mlynedd yn ol i Dakota, Unol Daleithiau America. A hyfryd ydyw hysbysu ei fod ef, a'i fab-yn