Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/265

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sef Mai 14, 1882, boreu 17; nos 26. Mai 13. 1883, boreu 15; nos 24. Rhagfyr 30, 1883, boreu 24; nos 49. Ystadegau ar ddiwedd 1882,-gwrandawyr 55; aelodau 15; plant 14; Ysgol Sul 41. Eto ar ddiwedd 1886,-gwrandawyr 58;. aelodau 18; plant 22; Ysgol Sul 46. Y mae yr eglwys hyd yma wedi derbyn cynorthwy arianol yn flynyddol o Drysorfa yr Achosion Saesneg. Ni wnaethpwyd yma ddewisiad o ddiaconiaid hyd fis Ionawr 1887. Y pryd hwn dewiswyd i'r swydd yn rheolaidd, Mr. Edward Bell, Mr. Edward Davies, a Mr. John Davies. Angen mawr presenol yr eglwys ydyw, cael capel i gario y moddion ymlaen, yn lle yr Assembly Room. Hyd yn hyn, pa fodd bynag, y mae gwedd lwyddianus ar yr achos.

Priodol ydyw crybwyll fod yr eglwys Gymraeg yn Aberdyfi wedi rhoddi pob hwylusdod a chefnogaeth i gychwyn yr achos Saesneg. Am y pedair blynedd cyntaf, dechreuai y Cymry y moddion am haner awr wedi naw yn y boreu, er mwyn rhoddi cyfle i'r neb a ewyllysiai fyned i'r moddion Saesneg am un-ar-ddeg. Ymhen amser a ddaw, bydd coffa parchus, yn ddiameu, am ffyddlondeb y brodyr a'r chwiorydd a roddasant eu hamser a'u llafur gyda'r achos hwn yn ei gychwyniad. Teg ydyw cadw mewn cof hefyd wasanaeth Mr. W. Jones, blaenor yr eglwys. Gymraeg, a'i briod, i'r eglwys Saesneg yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Bu ef yn dra gweithgar, trwy lawer o anhawsderau yn ceisio pregethwyr i lenwi y Sabbothau, hyd nes yr etholwyd brodyr i fod yn swyddogion rheolaidd yr eglwys. Ei hoffus briod hefyd, yr hon ar ddechreu y flwyddyn 1887 a gymerwyd i ogoniant, a ddangosodd garedigrwydd Cristionogol, trwy roddi ei thŷ gyda sirioldeb mawr yn llety i lawer o weinidogion yr efengyl. Rhoddodd y Parch. R. E. Morris, B.A., ei wasanaeth i'r eglwys tra y bu yn weinidog yr eglwys Gymraeg. Y gweinidog sydd yn gofalu am dani yn awr ydyw y Parch. John Owen.