Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/27

Gwirwyd y dudalen hon

cael yn profi fod rhyfeloedd blinion wedi bod yn ngwahanol ranau y wlad. Gellir casglu llawer o wybodaeth oddiwrth yr amrywiol enwau hyn sydd ar leoedd. A deuir o hyd i wybod, fel hyn, ymha gyfnod y cymerodd y prif ddigwyddiadau yn hanes y wlad le; a pha rai oeddynt flynyddoedd yr anwybodaeth a'r caethiwed. Dyma y profion tumewnol sydd yn cadarnhau gwirionedd ffeithiau a digwyddiadau. Tra nad yw dynion i'w cael yn meddu lleferydd byw, i adrodd hanes eu hoes, mae y pethau a wnaethant—fel graian mân y nentydd yn dangos lle unwaith y bu y llifeiriant yn meddu tafodau byw, y rhai sydd, wedi iddynt hwy feirw, yn llefaru eto. I brofi hyn, cawn nodi rhai lleoedd fel esiamplau. Yn Nghwm y Dyffryn Gwyn, neu Cwm Maethlon, y mae gweirglodd wastad sydd yn cael ei galw hyd heddyw "gweirglodd chwareu." Saif mewn dyffryn bychan, prydferth, tawel, neillduedig, y tu cefn i Aberdyfi, o fewn tair milldir i Dowyn, a phum' milldir i Bennal. Yn y weirglodd hon y cyfarfyddai trigolion yr ardaloedd a'r pentrefi cylchynol ar y Sabbath i chwareu y bêl droed, ymladd ceiliogod, a chwareuon cyffelyb. Yma hefyd yr ymgasglai amaethwyr yr ardaloedd, ac ar ol gorphen y chwaren, edrychent i wahanol achosion y plwyf. Byddai y cyngor hwn, i raddau, yn gwneyd i fyny waith yr overseers presenol. Os byddai rhywrai heb dalu y dreth, neu os digwyddai ymrafaelion yn rhyw ranau o'r plwyf, y ffordd arferol fyddai cyhoeddi fod cockin i gael ei gynal yn y "werglodd chwareu" ar y Sabbath ar Sabbath, benderfynu y pethau hyn, yn gystal âg er mwyn difyrwch y chwareu. A phwy bynag a anufuddhai, penodai y cyngor ryw bersonau i roddi curfa dda iddynt.

Yr un arferiad a ffynai yn rhanau uchaf y wlad, yn mhlwyf Talyllyn, fel y dangosir yn yr hanesyn a adroddai yr hen flaenor Rowland Evans, Aberllyfeni, o berthynas i neges y bugail yn myned i eglwys y plwyf ar y Sabbath. Clywsai Rowland Evans a'i glustiau ei hun yr hanes yn cael ei adrodd